Bywyd ar y Lefelau

Yn rhoi eich straeon chi ar y map

Prosiect newydd cyffrous yn ‘mapio’ atgofion pobl o Wastadeddau Gwent ar fin ei gyflwyno.

Stories from the Levels project page 2.JPG

Mae prosiect LLS-3 Bywyd ar y Lefelau yn gweithio gyda chymunedau yn Nhredelerch, Llaneirwg, Gwynllŵg, Casnewydd, Cil-y-coed a Sir Fynwy i gasglu, dogfennu a dehongli hanesion llafar gan rai sydd wedi byw a gweithio yng Ngwastadeddau Gwent.

Trwy recordiadau llafar hanesyddol ac arddangosfa deithiol yn cynnwys straeon pobl, deunydd archif, lluniau, ffilm a chelf, bydd y prosiect yn ennyn diddordeb pobl leol i ddysgu am brofiadau bywyd pobl o'r Gwastadeddau a'r hyn y mae’n eu datgelu am eu treftadaeth.

Llun: Peter Britton

Llun: Peter Britton

Nod y prosiect yw ysbrydoli a chynnwys pobl o bob cefndir, gan eu galluogi i adnabod, gwerthfawrogi, cofnodi a rhannu eu treftadaeth.

Mae peryg i’r straeon hyn ddiflannu o fewn cof yr oes hon os na’u cofnodir, felly bydd y prosiect yn bwysig dros ben i sicrhau bod y lleisiau yma gan y rhai sy'n byw ac yn gweithio ar y Gwastadeddau, yn nawr ac yn y gorffennol, yn cael eu clywed a'u diogelu ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Darperir hyfforddiant ar sut i gyfweld a chofnodi hanes llafar i'r holl wirfoddolwyr - os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych stori i'w rannu, cysylltwch â ni - byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Bydd tîm prosiect Bywyd ar y Lefelau o gwmpas yn ystod yr wythnosau nesaf, yn twrio am y straeon hynny yr ydym yn gwybod amdanynt. Cadwch lygad am ein fflach ddigwyddiadau a fydd yn dod atoch chi’n fuan a dysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod. Yn y cyfamser, rydym yn hapus iawn i chi gysylltu â ni. Cysylltwch â Marsha ar: marsha.omahony@gmail.com neu ffoniwch 07989 733870.


Arweinydd y Prosiect
Marsha O'Mahony

Amserlen y Prosiect
Ionawr 2019 - Mehefin 2020

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLS-3

Cyswllt
Marsha O'Mahony
Prif Hanesydd Llafar
E-bost