Llysgenhadon a phecynnau cymorth

Ambassadors project page.jpg

Bydd prosiect LLS-6 Llysgenhadon a phecynnau cymorth yn hyfforddi busnesau, cyfleusterau twristiaeth a gwirfoddolwyr i fod yn llysgenhadon ar gyfer Gwastadeddau Gwent fel cyrchfan i ymwelwyr. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys: yr hyn sydd gan y Gwastadeddau i’w gynnig, y ffordd orau o archwilio’r ardal, anghenion grwpiau gwahanol o ymwelwyr, a gofal cwsmeriaid. Bydd y prosiect hefyd yn darparu hyfforddiant a 'phecyn cymorth' i helpu cymunedau i gefnogi, cynnal a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio yn eu hardal. Bydd y prosiect hwn yn cychwyn wedi i eraill gael eu cwblhau, felly cadwch olwg ar y wybodaeth ddiweddar ac os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Matthew neu Lynne!


Arweinydd y Prosiect
Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Dinas Casnewydd

Amserlen y Prosiect
Gorffennaf 2019 – Gorffennaf 2020

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLS-6

Cyswllt
Lynne Richards
Cyngor Dinas Casnewydd
E-bost

Matthew Lewis
Cyngor Sir Fynwy
E-bost