Nod y prosiect LLS-1 Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol yw sicrhau bod tir o ansawdd cynefinol penodol wedi'i ddynodi o dan y rhwydwaith lleoliadau anstatudol (Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol). Gallai'r tir fod yn berllan arbennig, yn ddôl neu gallai gynnwys coed helyg hynafol. Mae yna lawer o botensial i ychwanegu safleoedd newydd a fydd yn helpu i sicrhau bod y cynllunwyr lleol yn cydnabod pwysigrwydd Gwastadeddau Gwent, gan helpu i leihau datblygiadau amhriodol.
Trwy ddynodiad SBGL, bydd tirfeddianwyr yn cael y cyfle i ddysgu mwy am sut i reoli treftadaeth naturiol Gwastadeddau Gwent a byddant yn cael eu gwahodd i ymuno â rhwydwaith sy'n cael eu gwahodd i Ddiwrnodau Tirfeddiannaeth flynyddol sy’n cael eu cynnal gan SBGL. Bydd cyfleoedd hefyd i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn arolygon ecolegol, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gemma!
Darganfyddwch ein cynlluniau i weithio gyda thirfeddianwyr a gwirfoddolwyr i arolygu, cofnodi a mapio tir sy’n cynnwys natur a hanes gwerthfawr er mwyn sicrhau diogelwch digonol i’r lleoliadau hyn yn y systemau cynllunio lleol ar draws Gwastadeddau Gwent.
Gwirfoddolwch i fod yn rhan o'r prosiect ymchwilio a mapio hanesyddol cyffrous hwn i gyfoethogi gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol o fywyd ar y Gwastadeddau o'r 17eg ganrif ymlaen.
Helpwch ni i gofnodi, diogelu a dehongli hanesion llafar difyr Gwastadeddau Gwent cyn iddynt ddiflannu gyda'r prosiect hwn sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr - cofnodi a hyrwyddo hanesion llafar gan gymunedau sydd wedi byw a gweithio ar draws y Gwastadeddau.
Darganfyddwch sut byddwn ni'n gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau cyffrous ymarferol ac awyr agored sy'n gysylltiedig â hanes ac amgylchedd gwefreiddiol Gwastadeddau Gwent.
Darllenwch am ein cyrsiau hyfforddi y byddwn yn eu cynnig i hyrwyddo sgiliau sydd wedi datblygu'n draddodiadol o fewn tirlun Gwastadeddau Gwent ac i gefnogi'r economi a'r busnesau lleol.
Cyfle i hyfforddi i fod yn llysgennad twristiaeth ar gyfer Gwastadeddau Gwent a helpu ni i gynllunio, datblygu, cynnal a hyrwyddo ein rhwydwaith o Gylchoedd-a-Dolenni.
Darganfyddwch ein cynlluniau i greu gweithiau celf unigryw a chyffrous a fydd yn gymorth i gysylltu cynulleidfaoedd newydd gyda stori unigryw Gwastadeddau Gwent trwy’r oesoedd.
Arweinydd Prosiect
Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Amserlen y Prosiect
Mehefin 2018 – Mawrth 2021
Cyfeirnod Lefelau Byw
LLS-1
Cyswllt
Gemma Bode, Rheolwr Tirwedd Byw
E-bost