Gwella Sgiliau

Bydd y prosiect LLS-5 Gwella sgiliau yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi sgiliau i helpu i ddiogelu sgiliau treftadaeth draddodiadol yn y Gwastadeddau. Bydd cyfleoedd hyfforddi yn cynnwys: rheoli tirwedd a chynefinoedd, adnabod bywyd gwyllt a sgiliau arolygu, sgiliau GIS (system gwybodaeth ddaearyddol), torri prysgwydd, gwehyddu helyg a basgedi, pysgota gyda basgedi ‘putcher’, ffotograffiaeth bywyd gwyllt, cynnal a chadw ac arwyddion llwybrau, cyfryngau cymdeithasol, marchnata i fusnesau lleol.

Hyd yn hyn yn 2018, rydym wedi darparu cwrs gwych ar sut i wehyddu helyg. Edrychodd y cwrs ar sut mae gwehyddu helyg wedi bod yn sgil bwysig ar y Gwastadeddau, yn defnyddio helyg o goed wedi eu tocio i gynhyrchu basgedi a thrapiau pysgod a ddefnyddir i ddal pysgod yn Aber Afon Hafren. Dysgwyd y rhai a fynychodd y cwrs am wahanol fathau o helyg a chrefft helyg, ac wrth i'r cwrs gael ei gynnal ym mis Rhagfyr, fe'u haddysgwyd sut i wneud coeden Nadolig helyg a seren helyg. Bydd mwy o gyrsiau helyg yn 2019!

Hefyd, rydym wedi cynnal y cyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded bywyd gwyllt yn Peterstone Gout, lle gwych i wylio adar sy'n gaeafu. Ar ein taith gerdded ddiweddaraf, gwelwyd cyfanswm o 52 o rywogaethau adar, a'r uchafbwyntiau'n cynnwys adar gwyllt ac adar y dŵr. Roedd yr adar y dŵr yn gwneud dipyn o sioe, gyda heidiau enfawr o’r pibydd coesgoch, pibydd y mawn a rhostog gynffonddu yn chwyrlïo â’i gilydd.

Hysbysebir cyrsiau sgiliau yma yn ein Calendr Digwyddiadau a chyfryngau cymdeithasol felly cadwch olwg yma am y newyddion diweddaraf am y cyrsiau sydd i ddod a chysylltwch â ni am ragor o wybodaeth!


Arweinydd y Prosiect
Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac RSPB Cymru

Amserlen y Prosiect
Awst 2018 – Ionawr 2020

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLS-5

Cyswllt
Gemma Bode
Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaeth Natur Gwent
E-bost