Yn ystod ein cyfnod datblygu, un testun allweddol sy'n effeithio ar ansawdd y tirlun a phrofiad ymwelwyr a godwyd dro ar ôl tro oedd y broblem o dipio anghyfreithlon yn nhirwedd agored Gwastadeddau Gwent. Mae'n amlwg i'n holl bartneriaid fod angen i ni leihau’r broblem a’r effeithiau yn ei sgil er mwyn i'n prosiectau eraill allu wneud gwahaniaeth parhaol. Mae’r prosiect LLNH-4 Tipio Anghyfreithlon - Troi Llanast yn Llwyni wedi elwa o osod swyddog gorfodaeth llawn amser sy’n gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r Grŵp Gweithredu Tipio Anghyfreithlon i ymchwilio i’r enghreifftiau yma o dipio ar y Gwastadeddau a gweithredu’n briodol yn erbyn y troseddwyr. Mae’r prosiect yn perthyn i dri grŵp - Addysg, Ymwybyddiaeth ac Ymyrraeth.
Addysg: Mae'n rhaid i blant a myfyrwyr feddu ar ffeithiau am wastraff a sut i ddelio’n gyfrifol gydag ef – mae’r prosiect yn galluogi athrawon i gyflwyno'r negeseuon hyn yn yr ystafell ddosbarth i ysbrydoli ein cenhedlaeth iau i ofalu am dirwedd unigryw Gwastadeddau Gwent.
Ymwybyddiaeth: Mae’r partneriaid yn codi ymwybyddiaeth am faterion tipio anghyfreithlon ac yn rhoi gwybodaeth i drigolion a busnesau ar sut i waredu eu gwastraff. Hyd yma, mae dros 3,500 o daflenni sy’n rhoi cyngor i berchnogion tai sy'n byw ar y gwastadeddau am eu Dyletswydd Gofal wedi eu hanfon i drigolion lleol, a bu sioeau teithiol masnachol yn Travis Perkins yng Nghaerdydd, B & Q yng Nghasnewydd a Robert Price yng Nghasnewydd yn targedu cludwyr gwastraff.
Ymyrraeth: Mae camerâu ac arwyddion dim-tipio wedi cael eu gosod i helpu i ddal troseddwyr, digwyddiadau glanhau ffosydd wedi eu trefnu i helpu i ddelio ag effaith tipio anghyfreithlon yn y dyfodol, bydd lleoliadau’n cael eu targedu’n drwm i atal tipio, a gerddi beillio yn cael eu hadeiladu mewn lleoliadau arwyddocaol i hybu balchder cymunedol yn y tirlun.
Erbyn diwedd y prosiect, rydym yn gobeithio cynnal lleihad mewn tipio anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent ac yn bwriadu adeiladu, gyda chymorth a chefnogaeth cymunedau lleol, gerddi beillio gerllaw rhai o’r mannau tipio blaenorol i droi’r mannau du hyn i mewn i fannau cymunedol disglair. Cysylltwch â Jayne am ragor o wybodaeth am weithgareddau sydd i ddod.
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau a’n digwyddiadau, ewch i’n tudalen Newyddion!