Mae prosiect LLNH-6 Perllannau a Mentrau Cymunedol yn cefnogi tirfeddianwyr trwy ddarparu hyfforddiant a chyllid i hyrwyddo ac amddiffyn perllannau traddodiadol. Bydd y prosiect yn ceisio gwrthdroi'r dirywiad a welir o berllannau traddodiadol ar y Gwastadeddau trwy ddathlu eu gwerth diwylliannol ac economaidd posib gyda chymunedau a busnesau lleol. Mae arolwg trylwyr o'r gwahanol rywogaethau sy'n bresennol yn y perllannau hynny ar fynd i ddangos effaith dulliau rheoli.
Bydd y prosiect hefyd yn nodi ac yn mapio manylion manwl coed ffrwythau ar Wastadeddau Gwent - rhai ohonynt yn cael eu hystyried yn unigryw ac 'olaf o’u fath' gan Gymdeithas Perai a Seidr Cymru. Nid yn unig y bydd hyn yn ychwanegu at wybodaeth gyfunol o dreftadaeth ar y Gwastadeddau, ond efallai y bydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu brand Gwastadeddau Gwent ac yn darparu ambell gyfle cyffrous i’r cyfryngau. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cryfhau cynaliadwyedd hirdymor perllannau traddodiadol ar y Gwastadeddau trwy adeiladu perthnasau rhwng cynhyrchwyr a thirfeddianwyr a gwthio i greu ffynonellau newydd o incwm. Bydd digwyddiadau dathlu o fewn ac o gwmpas y perllannau ar Wastadeddau Gwent yn annog pobl i ymweld a mwynhau'r mannau hyn. Yn olaf, bydd plannu perllannau cymunedol o fewn ysgolion Casnewydd a mannau gwyrdd agored yn dod â pherllannau i'r rhai na allant deithio ac felly’n llai tebygol o ymweld â chefn gwlad gyfagos. Cysylltwch â Mark am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod, gwirfoddoli a chyfleoedd ariannu.
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau a’n digwyddiadau, ewch i’n tudalen Newyddion!