Gwasanaethau ecosystem yng Ngwastadeddau Gwent

Bydd prosiect LLNH-5 Gwasanaethau Ecosystem yn nodi dulliau ariannu gwahanol ar gyfer gweithgareddau rheoli tir yn y dyfodol sy'n cyfoethogi gwasanaethau cyflenwi ecosystem. Bydd y prosiect yn datblygu modelau busnes i farchnadoedd newydd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan ffermwyr sy'n rheoli tir yn gynaliadwy. Yn ogystal, yn dadansoddi'r potensial ar gyfer ffrydiau incwm eraill sy'n gysylltiedig â chynnyrch twristiaeth ac efallai y gellir eu creu fel rhan o'r cynlluniau ehangach i ddatblygu Gwastadeddau Gwent fel cyrchfan i ymwelwyr.

Hefyd, bydd yn ymgynghori'n helaeth â chymunedau i asesu sut maent yn gwerthfawrogi gwasanaethau ecosystemau hanfodol megis aer a dŵr glân, bywyd gwyllt helaeth a mannau gwyrdd o ansawdd da sydd ar hyn o bryd o fewn Gwastadeddau Gwent ond sydd hefyd dan bwysau mawr. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dulliau polisi’r dyfodol yn cyd-fynd â'r gwerth a rown ar ein gwasanaethau ecosystem. Cysylltwch â Fiona am ragor o wybodaeth am y prosiect ac am ddigwyddiadau sydd i ddod.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau a’n digwyddiadau, ewch i’n tudalen Newyddion!


Ecosystem services page photo.JPG
Ecosystem services project page 2.JPG

Arweinydd y Prosiect
RSPB Cymru

Amserlen y Prosiect
Mawrth 2019 – Ebrill 2021

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLNH-5

Cyswllt
Lewis Stallard, Swyddog Prosiect Cynnal Gwastadeddau Gwent
E-bost