Mae prosiect LLNH-2 Peillio’r Gwastadeddau yn gweithio gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd targed a rhanddeiliaid i warchod a chysylltu peillwyr yng Ngwastadeddau Gwent, yn ogystal â chasglu data ar boblogaethau peillwyr a chodi ymwybyddiaeth amdanynt a'r hyn a ddarperir ganddynt. Hyd yma, rydym wedi cyfarfod â nifer o dirfeddianwyr a rheolwyr tir i drafod cyfleoedd posibl i reoli cynefinoedd. Mae'r rhain yn cynnwys Eastmans sydd â chryn dipyn o dir hygyrch i'r cyhoedd, ychydig i'r gogledd o fan pwysig y gardwenynen fain – gwarchodfeydd ‘Dolydd Great Traston’ Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Gwent - ond mae gordyfiant araf ar y tir ac felly’n colli ei werth ar gyfer peillio. Y nod fyddai agor yr ardaloedd hyn a'u rheoli'n fwy tringar ar gyfer peillio. Rydym hefyd mewn trafodaeth gyda CNC ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ynghylch rheoli a gwella'r morglawdd, a rhai safleoedd sy’n cynnwys perllannau. Yn ogystal, rydym wedi trafod rheoli a gwella cynefinoedd yn Nhŷ Tredegar (gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a chyda nifer o dirfeddianwyr eraill ar draws y gwastadeddau.
Bydd ymgysylltu, cyngor a hyfforddiant yn cael eu darparu i dirfeddianwyr, sefydliadau sy’n bartneriaid, cymunedau lleol a gwirfoddolwyr ar sut i gadw a gwella poblogaethau o beillwyr. Eleni, rydym wedi darparu hyfforddiant adnabod gwenyn i ddechreuwyr a hyfforddiant adnabod gwenyn canolradd. Bydd mwy o hyfforddiant yn dilyn o fewn blynyddoedd diweddarach.
Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn recriwtio gwirfoddolwyr i'n helpu i fonitro gwenyn ar Wastadeddau Gwent - gweler disgrifiad y rôl yma.
Cysylltwch â Sinead a Clare i ddarganfod sut allwch chi helpu’r peillwyr ac / neu i gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau a gweithgareddau gwirfoddoli.