Rhywogaethau estron goresgynnol - Amddiffyn y Gwastadeddau o Ymosodiad Estron

Mae prosiect LLNH-3 Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn Amddiffyn y Gwastadeddau o 'Ymosodiad Estron' yn brosiect rhagweithiol a gynlluniwyd i ddiogelu tirwedd Gwastadeddau Gwent rhag rhywogaethau estron goresgynnol - mater sy'n cael ei ystyried yn fyd-eang fel un o'r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth. Oherwydd natur gysylltiedig system ddraenio’r Gwastadeddau, mae'n benodol o fregus i RhEG. I ddiogelu Gwastadeddau Gwent, mae’n allweddol i atal RhEG rhag gwreiddio: 'Amddiffyn y Dalgylch'.

Mae rheolaeth yn gostus pe bydd gwreiddio, ac yn llawer iawn o waith ac yn aml yn aflwyddiannus. Am y tro cyntaf yn y dirwedd yma, bydd y prosiect RhEG yn creu dull partneriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth RhEG ac adeiladu’r gallu i fonitro, cofnodi a rheoli'n well i atal neu roi terfyn ar RhEG yn lledaenu. Mae'r prosiect yma yn canolbwyntio ar atal ac ymwybyddiaeth, gan alluogi eraill i gofnodi a thrin RhEG yn gywir lle’n briodol, a sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am RhEG yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol ac yn rhannu’r arferion gorau. O ganlyniad i'r prosiect hwn, bydd gan bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ddarlun clir o ble mae RhEG yn bresennol; bydd cofnodion yn gysylltiedig â mapio GIS (system gwybodaeth ddaearyddol) bresennol y Ganolfan Cofnodion Lleol ac ar gael i bawb. I atal lledaeniad pellach, bydd triniaeth yn cael ei gydlynu'n fwy effeithiol rhwng partneriaid yn y lleoliadau RhEG sy’n cael eu blaenoriaethu. Bydd y ffocws craidd ar darddiad RhEG (ar y cyrion) ac ar Warchodfeydd Natur. Bydd cynnydd hefyd yn ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r bygythiad a sut i adrodd a rhoi gwybod am y bygythiadau. Cysylltwch â Nick am ragor o wybodaeth am sut i helpu i ymladd yr Ymosodiadau Estron!

Isod gwelir llun o un o'n gweithgareddau codi ymwybyddiaeth RhEG a oedd yn rhedeg yr haf hwn yn 2018. Mae’r ‘babell dinistr’, yn babell ryngweithiol dros dro sy'n cyflwyno pobl i rai o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin i’w gweld ar y Gwastadeddau! Y flwyddyn nesaf byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau tebyg gan gynnwys digwyddiadau cofnodi bioblitz mewn amrywiaeth o'n safleoedd a reolir gan bartneriaid. Bydd y digwyddiadau hyn yn ceisio cofnodi llu o rywogaethau gwahanol o gwmpas y safle, gan gynnwys RhEG, i helpu gyda chasglu data a strategaethau rheoli y dyfodol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Gweler ein calendr digwyddiadau am fanylion!

INNS Project Page.jpg


Arweinydd y Prosiect
Cyfoeth Naturiol Cymru

Amserlen y Prosiect
Mawrth 2018 - Mawrth 2021

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLNH-3

Cyswllt
Nick Sharp, Cyfoeth Naturiol Cymru
E-bost