Mae’r prosiect LLNH-1 Adnewyddu Treftadaeth Naturiol yn darparu cyllideb adnewyddu cyfalaf ar gyfer gwaith cadwraeth sy'n targedu'r mater cynyddol o gefnu ar reolaeth ffosydd maes ynghyd ag adnewyddu perllannau hynafol a nodweddion treftadaeth allweddol eraill sy’n dirywio neu mewn cyflwr diraddiedig. Mae'r rhain yn cynnwys coed helyg sydd angen eu tocio, gripiau draenio canoloesol (field grips) sydd mewn perygl o ddiflannu, dolydd gwlyb sy’n dirywio a diffyg cynefin digonol i’r gardwenynen fain a phryfed eraill sy'n peillio.
Mae'r tymor gwaith cyntaf (Hydref 2018 - Mawrth 2019) wedi canolbwyntio ar ochr Cil-y-coed y Gwastadeddau; ym mlwyddyn dau (Medi 2019 - Mawrth 2020) bydd y gwaith yn symud ymlaen i ochr Gwynllŵg. Dyma’r datblygiadau hyd yma:
Gwaith adfer ffosydd – rydym wedi canfod 8.3km o waith adfer ffosydd ar gyfer Blwyddyn 1. Mae gwaith wedi cychwyn ar glirio prysgwydd, dadsiltio a gwaredu. Erbyn diwedd mis Rhagfyr 2018, rydym yn anelu i glirio dros 5km, a dadsiltio a gwaredu 3km. Mae hyn yn gam mawr ymlaen i gynnal a chadw ac i gynyddu’r nifer o gynefinoedd o fewn y ffosydd i’r anifeiliaid a’r planhigion pwysig a geir oddi mewn.
Perllannau – mae perllan fawr hanesyddol yn Allteuryn wedi ei glirio o 8000m2 o lwyni gwyllt i ddatguddio coed hynafol afalau, gellyg a chollen Ffrengig. Byddwn yn dychwelyd i’r safle yma yn y gwanwyn i wneud profion DNA ac i gymryd torion ar gyfer ymledu. Bydd hyn yn creu cyflenwad cartref i ni allu plannu o fewn perllannau sy’n bodoli’n barod a rhai newydd ar Wastadeddau Gwent.
Tocio Coed - dyma ran draddodiadol o dirlun y Gwastadeddau, ac mae’n lleihau’r cysgod dros y rhewynau a’r ffosydd a all gael effaith niweidiol ar yr anifeiliaid a’r planhigion. Mae deuddeg coeden fawr wedi eu tocio; bydd hyn yn helpu i warchod y coed o ddifrod naturiol tebyg i hollti, disgyn a llenwi’r ffosydd. Mae’r pren sy’n dal i sefyll yn holl bwysig i anifeiliaid di-asgwrn-cefn a mamaliaid bach.
Mae’r rheolaeth hon yn gwella gwerth bioamrywiaeth Gwastadeddau Gwent, yn fuddiol i SoDdGA, ac yn adnewyddu nodweddion traddodiadol brithwaith cymysg y tirlun, yn enwedig trwy agor allan unwaith eto’r ardaloedd sych sydd wedi’u cysgodi. Bydd y Gwastadeddau hefyd yn elwa trwy’r cyfraniad at wella ansawdd dŵr, a gall helpu i leihau perygl o lifogydd mewn rhai ardaloedd lleol.
Mae gwaith yn cael eu blaenoriaethu ar sail manteision cynefinol a thirwedd fel y barnwyd gan banel o arbenigwyr o Ymddiriedolaeth Natur Gwent, RSPB Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae gweithgareddau rheoli cymwys yn cynnwys:
1. Ail-gastio ffosydd
2. Tocio helyg
3. Atgyweirio gripiau maes
4. Tocio a chynnal a chadw'r berllan
5. Plannu perllan gyda choed lleol (gallai fod yn newydd ac yn bodoli eisoes)
6. Adnewyddu dolydd yn gysylltiedig â chynaeafu hadau yn lleol
7. Lle bo tirfeddianwyr yn fodlon, gallai'r prosiect hefyd gynnwys gwell mynediad neu ddehongliad mewn rhai mannau addas os bydd cyfleoedd yn codi.
Os ydych chi'n credu bod gennych chi unrhyw dir a all fod yn gymwys i gael arian neu efallai y bo gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i helpu gyda'r gweithgareddau hyn, cysylltwch â Mark i gael gwybod mwy.