Mae prosiect LLNH-7 Ffermio Gwastadeddau Gwent yn Gynaliadwy yn cyd-weithio gyda ffermwyr i ddatblygu systemau rheoli sy'n cynnwys amrywiaeth, gyda’r bwriad i barhau’r arferiad wrth reoli'r tirlun yn y dyfodol. Drwy ddatblygu proses o asesu gweithrediadau fferm a dadansoddi’r rhesymau presennol sy’n gyrru’r penderfyniadau rheoli, bydd offer yn cael eu creu fel y gellir eu defnyddio i gyrraedd targedau’n fwy cynaliadwy er mwyn sicrhau etifeddiaeth ar gyfer eiddo rheolaeth barhaol treftadaeth naturiol yng Ngwastadeddau Gwent.
Yna, gellid defnyddio'r offer i asesu busnesau fferm eraill ar dirweddau eraill, a gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu'r cam nesaf o gefnogaeth i amaeth-amgylcheddol Cymru ar ôl Brexit. Canlyniad etifeddiaeth hollbwysig y prosiect fydd dangos sut y gellid cyfeirio arian cyhoeddus yn y dyfodol i hyrwyddo rheolaeth tir cynaliadwy sy'n darparu amrywiaeth eang o fanteision cyhoeddus. Cysylltwch â Fiona i ddarganfod mwy am sut yr ydym yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr lleol.
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn ac eraill, ewch i’n tudalen Newyddion.