Dechrau ar waith twrio i ddarganfod tirluniau hanesyddol o Wastadeddau Gwent!

Dechrau ar waith twrio i ddarganfod tirluniau hanesyddol o Wastadeddau Gwent!

Mae ein prosiect gwirfoddoli wedi dechrau gyda chyfarfod agoriadol ar Chwefror 13eg gyda chymaint â 24 o wirfoddolwyr brwd o bob cwr o’r Gwastadeddau wedi mynychu! Gobaith y gwirfoddolwyr, o dan oruchwyliaeth broffesiynol, yw twrio mewn i gofnodion, mapiau Comisiynwyr Carthffosydd Sir Fynwy a chofnodion llys i archwilio datblygiad tirwedd y Gwastadeddau dros y 200 mlynedd diwethaf.

Glanhau Ffosydd a Chasglu Sbwriel Cymunedol Heol Las, 9fed o Dachwedd

Glanhau Ffosydd a Chasglu Sbwriel Cymunedol Heol Las, 9fed o Dachwedd

Er gwaethaf ei bwysigrwydd fel tirlun hanesyddol, yn anffodus mae'r Gwastadeddau wedi dioddef tipio anghyfreithlon ers blynyddoedd lawer ac mae'n achosi pryder mawr i’r trigolion lleol. Oherwydd y pryderon, ac fel rhan o'r prosiect O Fannau Du i Fannau Disglair y Lefelau Byw, mae'r partneriaid yn trefnu i lanhau’r rhewynau ar yr 8fed o Dachwedd ar Heol Las a chasglu sbwriel cymunedol ar ddydd Gwener y 9fed o Dachwedd o 09:30yb - 11.45yb