Diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gallu cefnogi 12 o gontractwyr amaethyddol lleol i Wastadeddau Gwent i gymryd rhan mewn hyfforddiant Cynllun Cymhwysedd Offer Adeiladu (CCOA). Ar ddiwedd eu hyfforddiant, byddant yn derbyn cerdyn CCOA, sef cerdyn adnabod safonol y diwydiant sy'n ardystio bod gan unigolyn yr wybodaeth a'r gallu angenrheidiol i weithio fel gweithredwr peiriannau yn y maes adeiladu. Amcan y cynllun yw sicrhau y gall cyflogwyr a gweithredwyr offer adeiladu fod yn hyderus eu bod yn cwrdd â'r safonau gofynnol mewn deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Does gan nifer o'r contractwyr lleol llai eu maint, yn aml y rheiny sydd wedi bod yn gweithredu ar Wastadeddau Gwent ers sawl blwyddyn, y tystysgrifau cymhwysedd angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer mathau o waith penodol, yn enwedig contractau sector cyhoeddus sy'n gofyn am fodloni safonau rheoli dylunio adeiladu penodol. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o weithredwyr offer adeiladu ar safleoedd gwaith y Grŵp Contractwyr Mawr (Major Contractors Group) a Ffederasiwn Contractwyr Cenedlaethol (National Contractor Federation) fod yn ddeiliaid cardiau CCOA cyn cael eu hystyried ar gyfer dal swyddi ganddynt. Diolch i'n rhaglen hyfforddi ni, bydd cymhwyseddau ein contractwyr yn cydymffurfio ac yn bodloni rheolau ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch a gweithredu peiriannau turio 10 tunnell. Dyma'r peiriannau y bydd eu hangen i wneud y gwaith adfer cynefinoedd hanfodol sy'n rhan o broject adfer treftadaeth naturiol y Lefelau Byw.
O ganlyniad i'r hyfforddiant hwn, bydd y contractwyr yn gallu gwneud cais am fwy o waith adeiladu sy'n gofyn am gerdyn CCOA, gan helpu i sicrhau bod gan y project etifeddiaeth gref ac yn cefnogi creu gweithlu medrus lleol. Hyd yn hyn, mae 6 o'n contractwyr wedi derbyn eu cerdyn CCOA gyda 6 arall ar eu ffordd i'w dderbyn. Bydd rhai ohonynt hefyd yn derbyn hyfforddiant Osgoi Gwifrau yn y dyfodol. Manylion i ddilyn cyn bo hir.
Llongyfarchiadau gwresog iddyn nhw gyd!
Isod mae Des Williams, un o'r don gyntaf i'w hyfforddi, yn derbyn ei gerdyn a'i dystysgrif (llun).