Cafodd blant (a'u hoedolion) cyfle i brofi bywyd fel ein hynafiaid ar Wastadeddau Gwent hyd at 10,000 o flynyddoedd yn ôl, wrth i’r cyntaf o gyfres o weithgareddau dros wyliau’r haf gymryd lle yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, sef ‘Mwdlyd gyda'r Mesolithig’. Fe ddaeth criw ifanc eiddgar Oes y Cerrig wyneb yn wyneb gyda phenglogau bwystfilod nad ydynt yn bodoli bellach (ddim ar Wastadeddau Gwent ta beth), hefyd darganfod cyfyngiadau darlunio cynhanesyddol (gyda dim ond pedwar lliw), creu traciau mwd fel y garanod sydd wedi dychwelyd a’r bleiddiaid sydd wedi hen ddiflannu, cerflunio potiau a llunio cytiau mwd. A chyfle hefyd i greu garan allan o helyg ar gyfer yr ardd!
Yn ardal Caldicot ar ddydd Mawrth 14eg o Awst, bydd detholiad o'r gweithgareddau ar dir y Castell, ac ar gyfer y profiad cynhanesyddol llawn, beth am ddod i Archifau Morgannwg ar yr 21ain o Awst?