Diolch i gydymdrechion partneriaid a gwirfoddolwyr, fe symudwyd yn agos i ddwy dunnell o wastraff tipio a sbwriel dros ddeuddydd yr wythnos diwethaf oddi ar Heol Las, Y Maerun. Ar ddydd Iau 8fed o Dachwedd, cliriwyd 1.5 tunnell o wastraff masnachol gan dimoedd o Gyfoeth Naturiol Cymru ar hyd yr Heol, rhai ohono yn beryglus ac yn cynnwys caniau olew a gwastraff metalig, ond hefyd llawer o deiars a rwbel. Y diwrnod canlynol, fe ymunodd gwirfoddolwyr o Taclo Tipio Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus a’r Marshfield Magpies yn ogystal â’r Cynghorwyr lleol Richard White a Tom Suller o Ward Maerun i gasglu sbwriel. Yr oedd yn fore da iawn o waith a chasglwyd 96 o fagiau sbwriel ar hyd y lôn mewn ychydig dros awr a hanner gan 25 o wirfoddolwyr. Fe waredodd Cyngor Dinas Casnewydd y gwastraff a gasglwyd ar y ddau ddiwrnod. Dyma oedd enghraifft berffaith o lwyddiant partneriaeth ar waith! Ac er ei bod yn dorcalonnus i weld gymaint o wastraff yn y lle cyntaf, roedd gweld yr holl bobl (yn y glaw!) yn gwneud rhywbeth am y broblem yn twymo’r galon.
Bydd camau gorfodi yn cynyddu ar y Gwastadeddau o ganlyniad i’n prosiect #ofannauduifannaudisglair. Ar ddiwedd y bore, gosodwyd arwyddion dim tipio yn rhybuddio am gamerâu a fydd yn patrolio’r ardal yn fuan. Bydd y camerâu yn help i gasglu tystiolaeth a all arwain i achosion troseddol. Bydd Pamela Jordan, Swyddog Gorfodaeth Tipio Anghyfreithlon o Gyfoeth Naturiol Cymru yn cynyddu lefelau’r wyliadwriaeth a monitro tipio anghyfreithlon o ganlyniad y Lefelau Byw. Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â rheolwr y prosiect o Taclo Tipio Cymru, Jayne Carter.