Meistroli pryd a gwedd gwenyn - Hyfforddiant gardwenyn fain gyda Phrosiect y Peillwyr

Yr wythnos hon yng Nghwlyptiroedd gwyntog Casnewydd, profwyd sgiliau Adnabod Gwenyn gwirfoddolwyr y peillwyr i’r eithaf gan Sinead Lynch o Ymddiriedolaeth ar gyfer Cadwraeth Cacwn. Yn dod wyneb yn wyneb â'n rhywogaethau prin y gardwenynen fain, oedd Krysten Walker, Elliot Waters a Chloe Jones. Roedd gwahaniaethu rhwng y peillwyr prysur yma a'u perthnasau tebyg iawn yr olwg, y gardwenyn cyffredin, yn achosi teimladau o gynnwrf pur i siom sydyn wrth i’r gwirfoddolwyr gystadlu a’i gilydd am yr anrhydedd o weld y gardwenynen fain gyntaf. Mae haul cryf yr haf wedi peri i ambell gardwenyn cyffredin golli eu lliw – nid yn annhebyg i aroleuo gwallt syrffiwr! Golyga hyn eu bod yn debyg iawn i’w perthnasau prin gyda’u harlliw o ffwr llwyd / gwyn. Fodd bynnag, wedi meistroli pryd a gwedd y gwenyn, fe’i gwelwyd ar amrywiaeth o rywogaethau ‘pys’ fel ffacbys, ytbys fythol lydanddail a physen y ceirw.

Os hoffech wirfoddoli ar gyfer Prosiect y Peillwyr yna cysylltwch â: sinead.lynch@bumblebeeconservation.org

IMG_0197.JPG