Mae ein prosiect gwirfoddoli wedi dechrau gyda chyfarfod agoriadol ar Chwefror 13eg gyda chymaint â 24 o wirfoddolwyr brwd o bob cwr o’r Gwastadeddau wedi mynychu! Gobaith y gwirfoddolwyr, o dan oruchwyliaeth broffesiynol, yw twrio mewn i gofnodion, mapiau Comisiynwyr Carthffosydd Sir Fynwy a chofnodion llys i archwilio datblygiad tirwedd y Gwastadeddau dros y 200 mlynedd diwethaf. Nid yw’r dogfennau pwysig yma wedi cael eu hastudio’n ffurfiol o’r blaen, ac mae’r prosiect yn cynnig cyfle cyffrous i ymchwilio effaith o lifogydd llanw ac afonol, dilyniant tirddaliadaeth, patrymau aneddiadau, llywodraethu lleol ar waith, a llawer, llawer mwy. Y carthffosydd yn yr achos yma yw dyfrffosydd, unai rhai naturiol neu rhai sydd wedi eu creu gan ddyn. Ledled Cymru a Lloegr, roedd gan gomisiynwyr carthffosiaeth awdurdodaeth dros ddraenio a morgloddiau ar draws iseldiroedd arfordirol yn cynnwys Gwastadeddau Gwent, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw ar bwys Afon Aber Hafren. Llys cofnodion oedd Llys Carthffosydd, yn gyfwerth â Llysoedd Chwarter, ac roedd llawer o’i gomisiynwyr yn Ynadon Heddwch. Roedd gwaith y llys yn effeithio ar bron bawb a oedd yn trigo ar y Gwastadeddau oherwydd mai’r tenantiaid a’r tirfeddianwyr oedd yn gyfrifol am atgyweirio a’r cynnal a chadw. Mae’r cofnodion felly yn gorlifo gydag enwau personol.
Bydd yr ymchwil a wneir gan y ‘RATS’ (Research and Transcription Service) yn cael ei ategu gan rannau eraill y prosiect. Mae'r rhain yn cynnwys arolygon maes, ymchwiliadau archeolegol a mapio GIS. Felly, dewiswyd y testunau ymchwil canlynol yn ofalus i gyfoethogi nid yn unig yr agweddau hyn, ond hefyd yn gymorth i greu byrddau dehongli a hanes llafar. Bydd darganfyddiadau’r ymchwil yn medru rhannu gwybodaeth gyda digwyddiadau, arddangosfeydd ac adnoddau newydd i helpu dehongli ac esbonio hanes y Gwastadeddau.
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fisol am y ddwy flynedd nesaf i gefnogi’r ‘RATS’ wrth eu gwaith a darparu hyfforddiant ac adnoddau.
Os hoffech chi wirfoddoli, cysylltwch drwy e-bostio info@livinglevels.org.uk
Mae disgrifiad rôl y ‘RATS’ ar gael yma.