Mae Lefelau Byw a'r Brewing Anglo-Oregon Company wedi dod ynghyd i lansio Stank Hen, cwrw newydd i hyrwyddo geirfa a chymeriad unigryw Gwastadeddau Gwent, a phrosiect newydd cyffrous i wirfoddolwyr hefyd.
Mae'r Brewing Anglo-Oregon Company, bragdy crefft bychan sydd wedi'i leoli ar ymyl deheuol Casnewydd ar Wastadeddau Gwent, wedi bod yn cynhyrchu cwrw a stowt traddodiadol a gyflyrwyd yn y botel yn fasnachol ers 2015. Dechreuodd sylfaenwyr y bragdy, Toby Jones a Tom Dalrymple, fragu cwrw cartref fwy na degawd yn ôl ac, yn fuan iawn, creu stowtiau tywyll, cryf a chwrwau â blas hopys arnynt oedd yn mynd â'u bryd. Erbyn hyn, mae'r bragdy yn cynhyrchu Smoked Porter, Premium Stout ac India Pale Ale. Mae'r cwrwau hyn yn cael eu gweini mewn nifer cynyddol o leoliadau o gwmpas Casnewydd, gan gynnwys Monusk Deli, Dutchy's Jamaican Jerk Shack, y Cellar Door, Prosiect Llongau Canoloesol Casnewydd a'r Waterloo Inn yn Nhrefonnen.
Cynhyrchwyd eu cwrw diweddaraf, Stank Hen IPA, ar y cyd â Phartneriaeth Tirlun y Lefelau Byw i ddathlu ac i hyrwyddo Gwastadeddau Gwent. Mae'r label yn cynnwys Iâr Ddŵr liwgar sydd, yn yr eirfa leol unigryw a diddorol ('Lingo’r Lefelau'), yn cael ei alw'n Stank Hen. 'Stanks' yw'r enw lleol am y ddau gynefin sy'n gartref i'r aderyn hwn, sef pyllau a grëwyd gan argaeau bychain a ffosydd.
Mae 'Lingo'r Lefelau' yn rhoi cipolwg i ni o systemau rheoli draenio'r tir ac amddiffyn rhag llifogydd o'r mileniwm diwethaf, ac mae Partneriaeth Tirlun y Lefelau Byw ar fin cychwyn ar brosiect uchelgeisiol i wirfoddolwyr, sef 'Adennill y Tirlun Hanesyddol', a fydd yn archwilio trwy gofnodion ysgrifenedig o'r cyfnod hwnnw.
O dan oruchwyliaeth broffesiynol, bydd grŵp o wirfoddolwyr, a roddwyd yr enw annwyl 'RATS' iddynt (Research and Transcription Service), yn cychwyn ar brosiectau ymchwil a fydd yn helpu i ddatgelu effaith llifogydd morol ac afonol, y dilyniant o dirddeiliaid, patrymau aneddiadau dynol, sut y newidiodd y rheilffordd y tirlun a llawer, llawer mwy. Cynhelir cyfarfodydd i gynnig arweiniad ac i gynorthwyo'r gwirfoddolwyr yn fisol gan ddechrau ym mis Chwefror 2019.
Os hoffech chi ymuno â'r RATS, cysylltwch ag alison.boyes@rspb.org.uk, neu ewch i wefan Lefelau Byw i weld disgrifiad rôl y gwirfoddolwyr a manylion pellach am y prosiect: https://www.lefelaubyw.org.uk/
Gallwch gysylltu â'r bragdy drwy ebostio: aobrewingco@gmail.com
neu ewch i: https://www.facebook.com/Anglo-Oregon-Brewing-Company-339650686764070/