Glanhau Ffosydd a Chasglu Sbwriel Cymunedol Heol Las, 9fed o Dachwedd

Er gwaethaf ei bwysigrwydd fel tirlun hanesyddol, yn anffodus mae'r Gwastadeddau wedi dioddef tipio anghyfreithlon ers blynyddoedd lawer ac mae'n achosi pryder mawr i’r trigolion lleol.

PA300007.JPG

Oherwydd y pryderon, ac fel rhan o'r prosiect Troi Llanast yn Llwyni y Lefelau Byw, mae'r partneriaid yn trefnu i lanhau’r rhewynau ar yr 8fed o Dachwedd ar Heol Las a chasglu sbwriel cymunedol ar ddydd Gwener y 9fed o Dachwedd o 09:30yb - 11.45yb. Ar yr 8fed o Dachwedd, bydd timau arbenigol o CNC yn symud eitemau mawr a gwastraff peryglus oddi yno, ac ar y 9fed bydd gwirfoddolwr cymunedol yn helpu i godi'r eitemau llai ar hyd y lôn gyda chymorth oddi wrth Cadwch Gymru'n Daclus. Bydd y gwastraff yn cael ei waredu gan Gyngor Dinas Casnewydd. 

Yn ogystal â’r digwyddiad i gasglu sbwriel cymunedol, bydd y prosiect O Fannau Du i Fannau Disglair yn gosod arwyddion ‘Dim Tipio’, yn gwneud mwy o ddefnydd o gamerâu a chynyddu gorfodaeth yn yr ardal. Bydd CNC yn arsylwi effeithiau’r mesuriadau.

Rydym angen cadw golwg ar y niferoedd ar y diwrnod, felly os hoffech gymryd rhan neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Prif Drefnydd, Jayne Carter ar Jayne.Carter@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd y canlyniadau i’w gweld ar ein cyfryngau cymdeithasol a’r wefan!

Cefndir

Mae tair menter yn y prosiect Troi Llanast yn Llwyni y Lefelau Byw a fydd yn ceisio mynd i'r afael â'r mater trwy amrywiaeth o gamau gorfodi a chodi ymwybyddiaeth. Mae Pam Jordan, Swyddog Gorfodaeth Tipio Anghyfreithlon o CNC, wedi bod yn casglu gwybodaeth ar yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio fwyaf dros y misoedd diwethaf, sy'n dangos mai Heol Las yw un o'r mannau gwaethaf. Ymhlith y mathau o wastraff tipio mae: gwastraff cartref a busnes, asbestos (peryglus), gwastraff a gynhyrchir o dyfu canabis a hyd yn oed anifeiliaid marw. Mae rhywfaint o'r gwastraff tipio wedi achosi peryglon i ddefnyddwyr ffyrdd trwy greu rhwystr ar y ffordd a difrodi teiars. Mae gwastraff hefyd wedi ei ddarganfod yn y ffosydd, gan achosi perygl llifogydd a llygredd - sy'n peryglu'r amrywiaeth helaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, planhigion dyfrol a bywyd gwyllt pwysig eraill. Mae'r digwyddiad cymunedol hwn yn un o nifer o ymyriadau a fydd yn cael eu treialu dros y tair blynedd nesaf. Erbyn diwedd y prosiect, rydym yn gobeithio cyflawni lleihad parhaol mewn achlysuron o dipio anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent.