Roedd ein digwyddiad blaenllaw yn rhan o fis Drysau Agored Cadw ac fe'i cynhaliwyd ar 29ain o Fedi. Fe ddenodd 1,032 o ymwelwyr y diwrnod hwnnw - dwbl y dorf arferol ar gyfer Gwlyptiroedd Casnewydd ar ddydd Sadwrn arferol, ac yn swm mawr am gyfnod y tu allan i'r tymor. Roedd prif ddigwyddiad y dydd, y 'Llwybr Teithio Nôl Mewn Amser', yn arwain ymwelwyr o Oes y Cerrig, i feddiannaeth Rufeinig a'r cyfnod canoloesol, ac yn parhau at etifeddiaeth Ystâd Tredegar a’r cynnydd diwydiannol. Daeth hanes cyfoethog y tirlun, a digwyddiadau allweddol fel darganfod Llong Casnewydd a'r Llifogydd Mawr yn fyw trwy amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i’r teulu.
Gydag arddangosiadau gan grwpiau treftadaeth ac archaeoleg leol, gan gynnwys pysgotwyr hanesyddol Rhwydi Gafl y Garreg Du a chrefftwyr traddodiadol Cymdeithas Cwryglau, fe gyflwynwyd diwrnod llawn darganfyddiadau cyffrous! Roedd Canwriad Rhufeinig wrth law i ateb cwestiynau am ddylanwad y Rhufeiniaid ar dirlun Gwastadeddau Gwent. Dysgodd llawer o bobl sut arferai’r Rhufeiniaid wedi eu lleoli yng Nghaerllion bori eu ceffylau ar y Gwastadeddau ac mai nhw oedd y cyntaf i adeiladu wal fôr a draenio'r tir!
Tywyswyd pobl ar daith gerdded fer i frig un o uchelfannau Gwastadeddau Gwent - tŵr pigfain Eglwys y Santes Fair yn Nhrefonnen. Cafodd ei ddisgrifio unwaith fel 'cadeirlan y rhostiroedd', a gwobrwywyd ymwelwyr â golygfeydd syfrdanol o'r caeau cyfagos a'u systemau draenio hanesyddol, yn ogystal â’r Aber Afon Hafren drawiadol.
Ac fel rhan o'r digwyddiad tafod yn y boch 'Antiques Roadshow', fe gyflwynwyd arteffact gan bysgotwyr Rhwydi Gafl, a ddarganfuwyd ar daith bysgota yn yr Aber, ac adnabu’r eitem gan arbenigwr ar y safle Dr Mark Lewis fel broetsh Rhufeinig a bellach wedi mynd i’w ddyddio yn Amgueddfa Caerllion. Mae'n anhygoel pa drysorau archeolegol sydd wedi eu claddu yn nhirluniau a morluniau Gwastadeddau Gwent!
Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda llawer yn adrodd eu bod wedi darganfod llawer o bethau newydd yn ystod eu hymweliad ac wedi mwynhau'r profiad. Penigamp - cadwch olwg am fwy o ddigwyddiadau tebyg y flwyddyn nesaf!