Oes gennych chi brofiad o recordio, golygu ac archifo hanes llafar? Hoffech chi arwain project gwych sy'n rhan o raglen Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw a fydd yn casglu, ac yn cadw ar gof a chadw, atgofion amryw o wahanol gymunedau sy'n byw yn nhirwedd hanesyddol ac unigryw Gwastadeddau Gwent? Mae tîm Partneriaeth y Lefelau Byw yn dymuno cynnig cytundeb i arbenigwr mewn Hanes Llafar i ddarparu hyfforddiant ac i oruchwylio gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan yn y project LB3 ‘Straeon o’r Lefelau/Gwastadeddau’.
Gwybodaeth gefndir am y project
Pwrpas y project yw cofnodi a dehongli hanes Gwastadeddau Gwent trwy weithio gyda'u cymunedau a thrwy greu partneriaethau cynaliadwy gydag unigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol yno.
Trwy recordiadau o hanes llafar a chreu arddangosfa deithiol sy'n cynnwys straeon pobol, deunydd o’r archifau, ffotograffau, ffilmiau a chynnyrch eraill fel y penderfynir gan y cymunedau, bydd y project yn troi at bobl leol i ddarganfod arwyddocâd y Gwastadeddau ac i’w galluogi nhw i ledaenu'r stori amdanynt mewn ffordd afaelgar.
Yn ogystal â bod yn straeon sydd, o'i hanfod, yn ddiddorol i'w recordio a'u harchifo, mae'n debygol y bydd nifer o'r straeon yn dwyn i gof atgofion mwy diweddar. Bydd y rhain yn mynd i'r afael â phrofiadau cymunedau gwahanol ar y Gwastadeddau o’r newidiadau sylweddol i gymeriad tirlun y Gwastadeddau a achoswyd gan adeiladu isadeiledd diwydiannol mawr fel Gorsaf Bŵer Aber-wysg, y Gweithfeydd Dur a’r twnnel rheilffordd o dan yr Hafren. Fe fydd trawsysgrifio’r profiadau yma nid yn unig yn cynhyrchu nifer o straeon diddorol a chyfoethog a fydd yn dod â hanes y Gwastadeddau yn fyw i’w defnyddio gan y bartneriaeth yn ystod ei digwyddiadau, bydd hefyd yn helpu i greu darlun o'r ymateb emosiynol i effeithiau cronnol datblygiadau mawr o fewn y dirwedd dros amser.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, gweler yr hysbyseb lawn sy'n ymddangos yma neu mae croeso i chi gysylltu ag Alison.Boyes@rspb.org.uk – Edrychwn ymlaen at glywed gennych!