Hela’r Ychen Hirgorn yn Aber-wysg

Ar ddydd Sul 22ain o Awst, aeth criw o wirfoddolwyr mentrus y Lefelau Byw ar daith arbennig ar draws y morfa heli a'r fflatiau llaid yn Aber-wysg i chwilio am dystiolaeth o wartheg cynhanesyddol. Cefnogwyd y grŵp gan y Swyddog Ymgysylltu Cymunedol y Lefelau Byw Gavin Jones ac archeolegwyr o Brifysgol Reading a Phrifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd (Ynysoedd Erch).

Roedd yr amodau ar y morfa heli a'r fflatiau llaid yn heriol ac yn sicr nid yw hwn yn lle i fentro heb rywun i’ch tywys. Roedd y criw yn chwilio am esgyrn ychen hirgorn (aurochs), hynafiaid diflanedig, llawer mwy, y fuwch ddomestig, mewn palaeosianel (hen wely afon neu nant) lle cawsant eu darganfod ar sawl achlysur yn flaenorol.

aurochs footprints.jpg

Gwobrwywyd y cyfranwyr trwy ddarganfod o leiaf 10 asgwrn ychen hirgorn, esgyrn cefn yn bennaf. Maent yn disgwyl mai esgyrn yn dyddio o'r Oes Neolithig neu'r Oes Newydd y Cerrig (4000 - 1700 COG) yw’r rhain; diflannodd yr ychen hirgorn ym Mhrydain yng nghanol yr Oes Efydd (2500 - 800 COG). Cofnodwyd union leoliad pob asgwrn gan System Leoli Fyd-eang gwahaniaethol (DGPS) er mwyn gallu eu cysylltu â darganfyddiadau’r gorffennol a'r dyfodol.

Cyffrous dros ben oedd darganfod 4 olion traed ychen hirgorn mewn dyddodion mawn cynharach a dorrwyd drwodd gan yr hen sianel a oedd yn cynnwys yr esgyrn. Fe wnaethant gastiau alginad deintyddol o ddau o'r olion ac rydym bellach wedi gwneud cast mwy parhaol o blastr Paris o’r olion hyn, a bydd un ohonynt yn cael ei arddangos yng nghanolfan ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd. Yn ystod yr ymweliad amlinellwyd hanes darganfyddiadau archeolegol yn Aber-wysg, gan gynnwys darganfyddiad olion traed dynol Mesolithig gan y diweddar Derek Upton, caib wedi ei greu o gorn carw, ac ardaloedd wedi eu gorchuddio ag olion ceirw ac adar.

Cyfrannodd ymweliad y Lefelau Byw at ddarlun datblygol o archeoleg Aber-wysg sydd wedi cynyddu’n raddol ers darganfyddiadau arloesol Derek Upton o ganol yr 1980au. Tra bod y criw yn brysur ar y blaendraeth, cynhaliodd Dr Jennifer Foster arddangosfa dros dro gerllaw ar Lwybr Arfordir Cymru ar y Warchodfa Gwlyptir yn egluro i tua 50 o ymwelwyr y warchodfa beth oedd y criw yn ei wneud, gan arddangos rhai o esgyrn ychen hirgorn o Aber-wysg a chastiau plastr o olion traed dynol ac adar o waith blaenorol yn Allteuryn.

 

Martin Bell a Tom Walker
Prifysgol Reading

Uskmouth bones  (6) WEB.jpg
 

Gwaith Maes Archeolegol Allteuryn

Ymunodd pedwar gwirfoddolwr y Lefelau Byw â chriw bach o archeolegwyr am bedwar diwrnod o gofnodi ardal newydd o goedwig danddwr a ddaeth i’r golwg ar y blaendraeth yn Allteuryn.

Goldcliff 22 to 25 Aug 2021 (55) WEB.jpg

Roedd hyn o ddiddordeb penodol oherwydd bod yr ardal newydd ar lefel uwch na’r coedwigoedd tanddwr a oedd wedi eu hymchwilio yn flaenorol, a chredir ei bod yn Neolithig. Cymerodd yr Athro Nigel Nayling a Dr Rod Bale o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a Dr Toby Jones o long Casnewydd, samplau o bedair coeden dderw fawr ar gyfer dyddio cylchoedd coed a byddant hefyd yn dyddio samplau mawn. Cymerodd Dr Scott Timpany o Brifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd (Ynysoedd Erch) a'i bartner Sarah samplau o fawn ar gyfer dadansoddi paill a hadau i ail-greu hanes llystyfiant. Cymerodd Dr David Smith o Brifysgol Birmingham samplau ar gyfer dadansoddi chwilod.

Cafodd y mawn a ddatgelwyd o'r newydd ei lanhau o fwd a thywod a gwnaed cynllun manwl o'r coed. Bydd Scott a Sarah yn mapio cyfansoddiad y coetir, gan ychwanegu at fap o ardal gyfagos a ddatguddiwyd yn flaenorol, a wnaed yn 2002. Gan ddefnyddio'r technegau amrywiol hyn, mi fydd yn bosib sefydlu union gymeriad y coetir hynafol hwn ac efallai dod o hyd i dystiolaeth o ddylanwad cymunedau Neolithig ar yr amgylchedd. Wrth lanhau ymyl y mawn a chloddio ar raddfa fach, datgelwyd arteffactau cerrig Mesolithig a gladdwyd gan y mawn, gan gynnwys microlith cain (darn bach o fflint) oedd yn debygol o fod yn flaen gwaywffon, a ddarganfuwyd gan Martin Gerrard, un o wirfoddolwyr y Lefelau Byw.

Nid oedd gwaith ar yr ardal Goedwig Danddwr Uchaf a ddaeth i’r golwg yn ddiweddar wedi caniatáu llawer o amser i ymchwilio’r dyddodion a oedd yn isel yn yr amrediad llanw sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn brif ffocws i ni. Fodd bynnag, roedd ymweliad â'r blaendraeth isel yn ystod un llanw isel yn arbennig o gynhyrchiol. Dim ond ardaloedd bach o siltiau laminedig, lle mae olion traed i'w cael yn aml, oedd wedi dod i’r golwg, gyda'r mwyafrif yn cael eu gorchuddio gan dwyni tywod. Er hynny, darganfuwyd set o olion adar oedd wedi'u diogelu’n dda ac mae post arall ar yr olion hyn yn cael ei baratoi gan Jeremy White.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae ardal weithgareddau Mesolithig newydd wedi ei ddarganfod ar y blaendraeth isel ac wedi datgelu esgyrn wedi'u llosgi, pysgod yn bennaf gydag un asgwrn carw, siarcol ac arteffactau fflint. Roedd Adam Turner, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Reading, yn chwilio’r gwaddod wedi erydu wrth ochr y safle hwn pan ddaeth o hyd i fwyell Fesolithig wedi torri o dwff folcanig ac enghraifft arbennig o sgrafell garreg, yn debygol wedi ei ddefnyddio i lanhau cuddfannau. Yn anffodus, roedd y strwythur pren Mesolithig, a ddehonglwyd fel trap pysgod sydd hyd yn oed yn is yn yr amrediad llanw, ac yr ydym wedi bod yn ei gofnodi a'i gloddio ers 2017, wedi'i orchuddio'n llwyr gan gerrig mân symudol felly nid oedd yn bosibl gwneud gwaith pellach ar y safle hwnnw.

Tra bod y criw yn gweithio ar y blaendraeth, roedd Dr Jennifer Foster yn gweithio ar dir sych, yn cofnodi’r darganfyddiadau, ac yn egluro i nifer o ymwelwyr a oedd yn cerdded y morglawdd beth oedd y criw prysur yn ei wneud yn y mwd islaw.


Cydnabyddiaethau

Rydym yn ddiolchgar i'r Lefelau Byw, Alison Boyes a gwirfoddolwyr y prosiect am gefnogi ein gwaith. Hefyd i'r ymchwilwyr arbenigol oedd yn gysylltiedig, pob un ohonynt wedi cyfrannu'n allweddol at ymchwil gynharach yn Allteuryn.

Diolch yn arbennig i deulu Williams ym Mhysgodfa Allteuryn a ganiataodd inni godi pabell ar eu lawnt fel ein man sefydlog i'r lan. Gwnaeth hyn y dasg gyfan yn haws ac yn fwy pleserus, wrth ddarparu lle i weithio ar y darganfyddiadau a'r samplau a'r cyfle i gael saib a chwpanaid o de ac esbonio'r gwaith i gerddedwyr y morglawdd gerllaw.

Martin Bell a Tom Walker,
Prifysgol Reading

Taith gerdded gyhoeddus 21 Medi 2021

Os hoffech chi brofi'r archeoleg yn uniongyrchol yn Allteuryn, mae taith gerdded gyhoeddus yn cael ei threfnu gan y prosiect Lefelau Byw ar ddydd Mawrth Medi 21ain, a bydd manylion i’w gweld ar wefan Lefelau Byw. Rhaid eich rhybuddio, fodd bynnag, bod amodau rhynglanwol yn fwdlyd ac yn llithrig a bod y teithiau cerdded hyn ond yn addas ar gyfer y rhai sydd â symudedd da a heb gyflyrau iechyd isorweddol difrifol. Nid yw'r ardal rynglanwol yn addas ar gyfer ymweliadau heb eu tywys oherwydd yr amodau anodd dros ben ar y blaendraeth ac am resymau cadwraeth natur.


 

Beth sydd yn y Clochdy?

Richard M. Clarke


Rydyn ni’n gyfarwydd clywed am “ystlumod yn y clochdy”, ond yn Sant Cadwaladr mae gennym ni rywbeth arall cyffrous yn llechu i fyny’r grisiau – Tylluanod Gwynion.

Eleni, gyda chymorth aelodau o Grŵp Modrwyo Allteuryn (‘y Grŵp’) roeddem yn gallu cadarnhau nid yn unig bod Tylluanod Gwynion wedi bod yn clwydo yn nhŵr yr eglwys ond eu bod hefyd wedi bridio’n llwyddiannus - gydag o leiaf un cyw wedi gadael y nyth yn llwyddiannus.

Mae Tylluanod Gwynion yn gysylltiedig yn hanesyddol ag eglwysi ac mae rhai pobl yn dal i gyfeirio at y rhywogaeth fel Tylluan Eglwys. Yn rhyfeddol efallai, o ystyried y nifer uchel o eglwysi yn ne ddwyrain Cymru, ychydig iawn o gofnodion o Dylluanod Gwynion sy'n gysylltiedig â nhw. Credir mai Sant Cadwaladr yw’r unig safle bridio presennol o fewn eglwys yn ardal Gwent.

Fe wnaeth adar yn Sant Cadwaladr nythu ar un o’r siliau uchel yn y tŵr. Fel y nodwyd eisoes, roedd bridio’n llwyddiannus eleni ond gallai lefel y llwyddiant fod wedi bod yn uwch. Roedd y sil nythu yn beryglus, gydag wy wedi malu wedi ei ddarganfod o dan y sil ar lawr. Er mwyn gwella’r sefyllfa wrth symud ymlaen, mae'r Grŵp wedi adeiladu a gosod blwch nythu gyda’r gobaith o ddarparu safle nythu mwy diogel.

Mae'r Dylluan Wen yn rhywogaeth eiconig sy’n cael ei diogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae adar sy'n nythu, yn ogystal â’r nythod, yr wyau a'r rhai ifanc yn cael eu diogelu drwy gydol yr amser. Yn y gorffennol, mae’r rhywogaeth wedi dioddef dirywiad sylweddol ac yn y ganrif ddiwethaf cafodd ei heffeithio'n andwyol gan blaladdwyr organoclorin fel DDT yn y 1950au a'r 1960au. Prif fygythiadau/ffactorau cyfyngol heddiw yw colli cynefin addas, damweiniau ar ffyrdd prysur, gwenwyno gan wenwyn llygod (rodenticides) a cholli (neu ddiffyg) safleoedd nythu.

Cyw Tylluan (© Richard M. Clarke)

Cyw Tylluan (© Richard M. Clarke)

Mae Sant Cadwaladr yn rhan o brosiect ehangach sy’n cael ei hyrwyddo gan y Grŵp sydd â’r nod o helpu i gynnal, a lle bo modd, cynyddu poblogaeth Tylluanod Gwynion trwy ddarparu blychau nythu. Gyda chefnogaeth ariannol y Lefelau Byw, Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Natur Leol Sir Fynwy a Chasnewydd, mae'r Grŵp wedi bod yn darparu safleoedd nythu addas/diogel mewn ardaloedd sydd wrth ymyl cynefinoedd da.

Hyd yma, mae dros 50 o flychau nythu wedi'u gosod yn ne Gwent. A bellach, fe welir buddion y weithred hon. Yn 2019, roedd pum pâr bridio wedi nythu yn y blychau a defnyddiwyd tri arall gan adar yn clwydo. Llynedd, bridiwyd chwe phâr gyda phedwar ohonyn nhw’n magu’n llwyddiannus, ac roedd y blychau eraill yn cael eu defnyddio gan adar yn clwydo. Eleni, defnyddiodd deg pâr bridio y blychau nythu a phedwar arall yn cael eu defnyddio ar gyfer clwydo.

Mae'r mwyafrif o flychau nythu wedi'u gosod mewn ysguboriau neu ar goed sy’n sefyll ar ben eu hunain, ac ambell un mewn eglwysi gwledig. Yn ogystal â Sant Cadwaladr, mae blychau nythu wedi’u gosod yn eglwysi Sant Pedr, Yr Eglwys Newydd ar y Cefn, Y Santes Fair, Llan-wern a Sant Pedr, Henllys gyda thrafodaethau pellach mewn eglwysi eraill.

Bydd Tylluanod Gwynion yn parhau i gael eu monitro yn Sant Cadwaladr. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i barhau i gynnal yr adar yn ystod gwaith adnewyddu’r eglwys yn y dyfodol a bydd blwch nythu yn cael ei osod y tu allan ar dir yr eglwys i ddarparu llety dros dro pe bai angen cau mynediad i'r twr pan fydd gwaith yn cychwyn.

Mae'r Grŵp yn parhau i chwilio am safleoedd newydd yng Ngwent i geisio annog Tylluanod Gwynion i fridio, a byddent yn hapus i glywed gan dirfeddianwyr a fyddai â diddordeb mewn gosod blychau nythu ar eu tir. Cysylltwch â Richard Clarke ar chykembro2@aol.com neu 07977 698255.

Tylluanod Gwynion (© Richard M. Clarke)

Tylluanod Gwynion (© Richard M. Clarke)

 

Addewid Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS i gefnogi Gwastadeddau Gwent

julie_james_magor_marsh2.jpg

Ar ddydd Iau Gorffennaf y 1af, ymwelodd Gweinidog Newid Hinsawdd newydd Cymru Julie James AS â Phartneriaeth Tirlun Lefelau Byw yng Ngwarchodfa Natur Cors Magwyr (Ymddiriedolaeth Natur Gwent) i wneud datganiad pwysig am ei bwriad i weithredu i warchod a rheoli Gwastadeddau Gwent yn well. Cafodd y Gweinidog ei chyfarch gan grŵp o chwe chynrychiolydd o bartneriaid y Lefelau Byw a achubodd ar y cyfle i ddangos gwerth y gwaith y mae Lefelau Byw wedi bod yn ei wneud dros sawl blwyddyn.

Yn fuan ar ôl yr ymweliad, rhyddhaodd y Gweinidog ddatganiad yn addo gweithrediad ychwanegol i gynnal a gwella bioamrywiaeth a sicrhau bod y Gwastadeddau yn ased hamddena gwerthfawr ar gyfer pobl yr ardal ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Yn ystod yr ymweliad, mynegodd y Gweinidog ei hedmygedd a'i chefnogaeth i barhad y bartneriaeth Lefelau Byw y tu hwnt i ddiwedd cyllid cyfredol y Loteri. Cyfeiriodd at ffrydiau cyllido fel £9.8M y Gronfa Rhwydweithiau Natur gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri a allai gefnogi'r cynllun etifeddiaeth ynghyd â chryfhau fframwaith y polisi cynllunio i reoli datblygiad ar Wastadeddau Gwent yn well yn y dyfodol.

Roedd hwn yn ymweliad amserol a gafodd ei groesawu'n fawr yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu’r diogelwch i’r coridor ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Bydd Lefelau Byw yn ymdrechu i weithio'n agos gyda'r Gweinidog yn y dyfodol i roi cynlluniau manwl ar waith i gefnogi'r datganiad o fwriad pwysig hwn.

Gallwch ddarllen datganiad llawn y Gweinidog ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James (ail o'r dde), yng Ngwarchodfa Natur Cors Magwyr gyda chynrychiolwyr y Bartneriaeth Lefelau Byw.

Gallwch ddarllen datganiad llawn y Gweinidog ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Yn galw ar egin feirdd – mae Cystadleuaeth Barddoniaeth Lefelau Byw ar agor!

Mae Lefelau Byw wedi ymuno â'r bardd arobryn Ben Ray i gyflwyno Cystadleuaeth Barddoniaeth Lefelau Byw.

Y thema yw Gwastadeddau Gwent - p'un a ydych chi'n ysgrifennu am y tirlun, yr hanes, y bobl neu stori bersonol, ry’n ni’n awyddus i’w darllen! 

Bydd y wobr yn cynnwys Ben Ray yn perfformio’r gwaith buddugol yn fyw yn ystod ei ddigwyddiad ar-lein ‘Sain Byw y Lefelau!’, ‘Barddoniaeth Cymru’ ar Ragfyr yr 2il :

Mae yna dri chategori grŵp oedran:

Dan 8

9 - 16

17 a throsodd 

Dyddiad cau: Dydd Gwener 11ain o Ragfyr (hysbysir yr enillwyr erbyn dydd Llun, 14af o Ragfyr)

Rhaid e-bostio ceisiadau at info@livinglevels.org.uk gyda’r teitl ‘Cystadleuaeth Barddoniaeth’ a rhaid cynnwys eich enw, oedran a’ch manylion cyswllt.

LLLP poetry competition image (003).jpg



#WythnosGwirfoddoli2020: ABG a CAI - yn cyflwyno ein Harwyr Treftadaeth!

Un o elfennau allweddol tirlun Gwastadeddau Gwent yw’r cysylltiad hanfodol rhwng ei hanes, archeoleg a’r bywyd gwyllt - dyna beth sy’n ei wneud mor unigryw.

Gyda hyn mewn golwg, mae Lefelau Byw wedi dod a dau grŵp ieuenctid ynghyd o bob rhan o'r Gwastadeddau sydd â diddordebau gwahanol iawn, ar dirlun sy'n cyfuno'r ddau’n berffaith. Mae'r Archwilwyr Bywyd Gwyllt (ABG) sydd wedi'u lleoli yng Ngwlyptiroedd Casnewydd a changen De Ddwyrain Cymru o Glwb Archeolegwyr Ifanc (CAI) yn cwrdd ar yr un diwrnod o'r mis ac yn awyddus I groesawu aelodau newydd.

Dyma Kevin Hewitt o’r grŵp ABG gyda’r hanes. “Yr ysbrydoliaeth i mi oedd mynychu digwyddiad Ysgol Undydd y Lefelau Byw yr haf diwethaf yn y Redwig. Mi gefais dipyn o foment ‘Eureka!’ gan fod ABG yn mynd trwy amser anodd ac angen ffocws newydd, felly pam ddim canolbwyntio’n lleol a chysylltu â hanes y gwastadeddau?”

Ar yr un pryd, roedd Lefelau Byw wedi bod yn trafod gweithgareddau archeolegol posibl gyda Rebecca Eversley-Dawes o CAI. Felly, roedd yr ateb yn syml; beth am drefnu gweithgareddau ar y cyd ar y Gwastadeddau sy'n edrych ar fywyd gwyllt ac archeoleg? – ta beth, mae'r ddau grŵp yn rhannu elfennau o ddiddordebau allweddol, fel bod yn yr awyr agored, gafael mewn pethau a mynd yn fwdlyd. Felly dyna wnaethon ni, cyn i ni i gyd gael ein gofyn i aros y tu fewn!

Daeth 20 o blant ac oedolion o ardaloedd Cas-gwent, Casnewydd a Chaerdydd ynghyd ar gyfer y gweithgaredd ‘Arwyr Treftadaeth’ Lefelau Byw cyntaf ar Wastadeddau Gwent. I ddechrau fe wnaethon ni gerdded am filltir ar draws caeau mwdlyd o Ganolfan Gwlyptiroedd Casnewydd i Eglwys y Santes Fair yn Nhrefonnen, gan gyflwyno pawb i'r rhwydwaith ffosydd canoloesol a'r bywyd gwyllt a geir o amgylch y rhewynau. Cafodd y grŵp eu cyfarch gan Sue Waters o Grŵp Treftadaeth y 3 Plwyf, ac adroddodd hanes rhyfeddol am yr eglwys, cyn i bawb wisgo fflachlampau pen ac wynebu’r twr canoloesol, lle mae'r rhwydwaith ffosydd, Aber a Phont Hafren, Gwlyptiroedd, bryniau i'r gogledd a hen safle Priordy Allteuryn i'w gweld yn eu holl ogoniant! Roedd amser hefyd ar gyfer arolygon adeiladau a bywyd gwyllt o amgylch yr eglwys cyn troi am yn ôl.

Dyma Rebecca Eversley-Dawes o Glwb Archeolegwyr Ifanc i grynhoi’r bartneriaeth: “Mae CAI yn 25 mlwydd oed eleni ac yn ystod ein blynyddoedd lawer yng Nghasnewydd rydym wedi dod i ddibynnu ar yr Archeoleg sy'n ein hamgylchynu I ddysgu mwy i ni am ein cyndeidiau. Croesewir pob cyfle i ddysgu rhywbeth newydd ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'r prosiect Lefelau Byw ac ABG i gyfuno diddordebau yn y tirlun archeolegol yma. Mae ein tîm yn edrych ymlaen at gyflwyno gweithgareddau poblogaidd gydag eraill a mwynhau cyfnewid gwybodaeth am yr ardal yma.

Gavin Jones

20200314_123513 crop 2.jpg























#WythnosGwirfoddoli2020: Mike Rees

Ar hyn o bryd rwy'n treulio fy amser gyda Syr Charles Morgan a Syr Thomas Robert Salusbury, Barwnigion, Thomas Lewis o St. Pierre, William Phillips o Whitson, ymhlith eraill, trwy'r cofnodion o'u trafodaethau fel Comisiynwyr wrth iddyn nhw reoli Morfa Gwent a Gwastadedd Gwynllŵg - Llyfr Cofnodion Llyfr Llys y Carthffosydd (1811 - 1824).

Nash+a.jpg

A phan dwi angen seibiant?

Rwy'n cerdded i Nant Mounton ac yn eistedd at ei glannau mewn dôl y mae map degwm yr ardal yn dangos mai’r un Thomas Lewis o St Pierre oedd y perchennog ar un adeg.

Mike Rees


Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw.  rwilliams@gwentwildlife.org







#WythnosGwirfoddoli2020: Jeremy White

Mae'n ymddangos bod gwirfoddoli wedi bod yn rhywbeth rydw i bob amser wedi'i wneud hyd yn oed ers yn fachgen. Rwyf wedi bod gyda’r Sgowtiaid ers degawdau mewn rôl oedolyn, ac wedi bod yn aelod o grŵp archeoleg lleol ers ugain mlynedd. Pan wnes I ymddeol, meddylies i am helpu yng Ngwlyptiroedd Casnewydd am un diwrnod yr wythnos. Byddai strwythur rheolaidd i'r wythnos gen i, rhywbeth gwahanol i'w wneud a digon i'w ddysgu...meddyliwch am gael dysgu am yr holl adar, pryfed a phlanhigion. Ac mae yna dirlun diddorol i'w deall. Y dyddiau hyn rwy'n helpu yn y ganolfan ymwelwyr, yn siarad gydag ymwelwyr, arwain teithiau cerdded a helpu y tu ôl i'r llenni i ddatblygu gwybodaeth ein gwirfoddolwyr. Er enghraifft, gofynnir i ni yn aml am Oleudy Dwyrain Wysg...oes gennym ni oleudy, yw e'n in go iawn, yw e'n gweithio, beth yw ei bwrpas? Mae'n lletchwith pan na allwch roi ateb boddhaol felly fe wnes i rywfaint o waith ymchwil ac ysgrifennu ychydig dudalennau am ei hanes. Cyn pen dim, roedd y tîm yn dechrau meddwl y gallwn “wneud hanes” neu fy mod i hyd yn oed yn “arbenigwr”. Ni wrandawodd neb ar fy mhrotestiadau yn crybwyll na wyddwn i fawr ddim am hanes gan mai archeolegydd amatur ydw I. Wedi'r cyfan, ro’n i wedi gwirfoddoli heb roi rhestr gynhwysfawr o'r hyn nad oeddwn wedi ei wneud (neu na fyddwn i'n ei wneud).

Joanne+Burgess+Photography.-5391.jpg

Y “prosiect bach” nesaf oedd gosod a chatalogio'r cwpwrdd arddangos newydd yn y ganolfanymwelwyr...fe wnaethom ei lenwi â darganfyddiadau archeolegol lleol a chopïau o offer fflint. Mae'n fan cychwyn da wrth siarad gydag ymwelwyr am sut beth oedd bywyd ar y gwastadeddau ar un adeg. Mae hefyd yn gysylltiad cryf i waith Rhaglen Tirlun y Lefelau Byw. Felly, nawr rydw i wedi bod yn helpu tîm PTLB gyda digwyddiadau (teithiau cerdded Gavin, “Gwastadeddau oddi fry”) a datblygu wy o adnoddau hanes. Feddyliais i fyth y byddwn i'n ysgrifennu pennod ar gyfer hanes gwastadeddau PTLB heb sôn am ddwy (cofiwch pan fydd pob gwirfoddolwr arall yn cymryd cam yn ôl, dylech chi hefyd). Meddyliais y byddai'n braf mynd ar gwpl o gyrsiau am ddim i wella fy archeoleg yn unig. Rwyf wedi treulio dwsinau o oriau yn helpu i ddigideiddio mapiau Llys y Carthffosydd ar ôl dysgu ychydig am Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol sydd ar gael ar gyfer y cyhoedd. Cefais brofiad mwdlyd dros ben ar ôl pedwar diwrnod o archeoleg aberol ar fflatiau llaid Llanbedr Gwynllŵg. Ond, o leiaf rwy'n gwybod ychydig mwy i allu siarad gydag ymwelwyr fel y gallant wir werthfawrogi eu hamser ar y Gwastadeddau.

Jeremy White


Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw.  rwilliams@gwentwildlife.org










#WythnosGwirfoddoli2020: Cath Davis

Nid o’n i erioed wedi clywed am y prosiect Lefelau Byw nes i mi fynd i gyfarfod yn Pye Corner CNC yn 2018. Roedd e-bost gan Heddlu 'Gwent Nawr’ yn nodi mai cyfarfod ar dipio anghyfreithlon oedd hwn i fod; ro’dd gen i ddiddordeb mawr yn y pwnc hwn gan fod yr ardal rwy'n byw ynddo ar Wastadedd Gwynllŵg yn dioddef yn wael o'r poendod yma.

Glamorgan Archives.jpg

Roedd yr ystafell gyfarfod yn llawn ac fe roddais fy enw i dderbyn gwybodaeth bellach am y prosiect. Anfonwyd cylchlythyr allan ac roedd darn am wirfoddoli i wneud ymchwil hanes yn ymddangos yn ddiddorol i mi. Roedd yr amseru’n dda gan fy mod i newydd ymddeol o'r gwaith; ro’dd gen i ddiddordeb mawr yn yr ardal hefyd gan fy mod i wedi treulio fy mlynyddoedd cynnar ar fferm fy nhaid yn Nhredelerch a ro’n i'n berchen ar rywfaint o dir ym Maerun - pob un o fewn Gwastadedd Gwynllŵg.

Wrth imi ddysgu mwy am y Prosiect Lefelau Byw a phopeth sydd ynghlwm â’r prosiect, des i’n frwdfrydig iawn ac ymrwymo i ledaenu'r neges i unrhyw un oedd yn gwrando! Rwy'n gwneud yn siŵr fod fy siop leol gyda digon o daflenni gwybodaeth a phamffledi digwyddiadau, rwy’n gosod posteri sy'n hysbysebu digwyddiadau i ddod ac yn y bôn yn gwneud unrhyw beth i helpu i ledaenu'r gair.

Rhan o'r prosiect yw ail-gysylltu pobl â'u tirwedd ac yn sicr mae wedi gwneud hynny i mi. Dwi'n dal i feddwl, pam na wnaed rhywbeth fel hyn erioed o'r blaen! Rwyf wedi mwynhau grŵp hanes RATS yn fawr ac wedi dysgu cymaint yn ystod y broses ymchwil a'n sesiynau gyda Rose Hewlett. Rwyf wedi cwrdd â phobl grêt a diddorol sydd bellach yn ffrindiau da.

Yn anffodus mae'r cyfnod cloi’r coronafirws wedi rhwystro’r prosiect ar hyn o bryd; mae hyn wedi bod yn siomedig iawn gan fy mod yn colli'r holl ddigwyddiadau a'r bobl sy'n gysylltiedig â rhedeg y prosiect. Gobeithio y gallwn gwneud iawn am amser a gollwyd yn ystod y misoedd nesaf.

Cath Davis


Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw.  rwilliams@gwentwildlife.org






















#WythnosGwirfoddoli2020: Gwirfoddoli ar gyfer y Prosiect Lefelau Byw

Fe wnes i ymddeol o weithio mewn Llywodraeth Leol ychydig flynyddoedd yn ôl. Fel rhan o fy swydd fe efais brofiad o drefnu a defnyddio gwirfoddolwyr ar gyfer prosiectau yn amrywio o blannu coed, digwyddiadau cymunedol i Ffeiriau Gwledig mawr. Ni feddyliais erioed y byddwn i’n wirfoddolwr fy hun un diwrnod nac y byddwn yn gwirfoddoli mewn pwnc oedd yn gyfarwydd i mi ers fy mhlentyndod.

Roedd fy mam-gu a thad-cu ar ochr fy nhad yn byw yng Nghasnewydd ac weithiau pan fyddai’r teulu yn ymweld â nhw byddem yn mynd i Allteuryn i gerdded ar hyd y morglawdd. Byddai’n nhad a'i frawd yn dweud y byddai’r ddau’n beicio yn rheolaidd i Allteuryn a'r Goleudy yn eu harddegau, lle bydden nhw’n nofio gyda ffrindiau. Rwy’n cofio’n glir gweld arwyddion ar gyfer sw Whitson, a pha mor wastad a chymharol dinodwedd oedd yr ardal o’i chymharu â Chwm Sirhywi lle'r oedden ni’n byw. Roedd y ffosydd wedi'u gorchuddio â chwyn dŵr yn ddirgelwch a hefyd y llinellau o fasgedi (putchers) a welais yn yr aber.

Ni feddyliais erioed y byddwn yn cael galwad gan fy ffrind Gavin, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Lefelau Byw, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, yn gofyn a hoffwn wirfoddoli a'i helpu i dywys Taith Gerdded yr oedd yn ei threfnu a fyddai'n cychwyn o Ganolfan yr RSPB i’r Bont Gludo a throsti.

Cynigiodd fy merch ieuengaf, a oedd yn y brifysgol ar y pryd i helpu hefyd, yn rhannol rwy'n credu i sicrhau bod ei 'hen Dad' yn gallu gwneud y swydd a hefyd oherwydd ei bod yn hyfforddi i gerdded Llwybr yr Inca I Machu Pichu i godi arian ar ei gyfer elusen canser.

image1.jpeg

Aeth Gavin a minnau ar hyd y llwybr cyn y daith gerdded go iawn a buan y dysgais, efallai fod y gwastadeddau yn wastad ond yn sicr nid ydyn nhw’n ddinodwedd; mae’r llwyni, y pontydd, camfeydd, gafaelion, y ffosydd a’r rhewynau yn nodweddion tirlun bach ond pwysig, a phob un yn chwarae’u rhan yn y modd y rheolwyd y tir, a’r modd y rheolir nhw heddiw.

Ar ddiwrnod y daith gerdded, gwnaethon ni gyd gwrdd yng nghanolfan yr RSPB, roedd tua 25 yn cymryd rhan gyda Gavin yn arwain, Rhiannon a minnau fel y ‘cerddwyr olaf’ I wneud yn siŵr nad oedd neb ar ôl, bod gatiau ar gau a bod unrhyw groesfannau yn cael eu rheoli. Daeth gwirfoddolwr arall hefyd, (Jeremy White) i ddweud hanes Goleudy Dwyrain Wysg. O'r ganolfan, aeth y daith trwy'r Warchodfa Natur i'r goleudy ac yna yn ôl a phasio'r Ganolfan ac wedyn dilyn llwybrau trwy’r caeau bach, wedi'u ffinio â llwyni a ffosydd wedi'u llenwi â dŵr, i Eglwys y Santes Fair yn Nhrefonnen. A dyma nodweddion annisgwyl - marc yn dangos uchder y Llifogydd Mawr (neu Tswnami efallai) yn 1607, ffenestr i wahangleifion, deial wedi ei gerfio ar fur yr eglwys a seddau sgwâr pren. O'r eglwys fe wnaethom barhau dros dir fferm ac yna pasio trwy ardal ddiwydiannol i lannau'r Wysg, trwy'r amser yn anelu am y Bont Gludo.

Mae'r Bont unwaith eto yn dal atgofion plentyndod i mi gan fy mod yn aml wedi teithio ar y gondola gyda fy rhieni. Dywedodd fy nhad wrthyf yn aml y gallech dalu tair ceiniog i gerdded dros yr Wysg ar rodfa'r pontydd pan oedd yn ei arddegau. Wrth y bont roedd dewis gyda ni, i naill ai croesi'r afon ar y gondola neu groesi at y rhodfa sy’n cysylltu tyrau'r bont.

Efallai bod y daith gerdded i’r bont wedi bod yn wastad ond yn sicr nid felly’r ddringfa i’r rhodfa. Roedd ein coesau'n boenus, ro’n ni'n fyr ein gwynt ac roedd hi'n eitha’ gwyntog pan gyrhaeddon ni'r top. Ond yn sicr fe wnaeth yr olygfa dros y ddinas, y dociau a’r Wysg tuag at Gaerdydd a hyd at y ‘twmp’ nodedig sy’n gwahaniaethu bryngaer yr oes haearn yn Twmbarlwm ei gwneud yn werth pob cam.

IMG_0774.JPG

Rwyf wedi helpu ar y daith hon ddwywaith nawr a byddwn wedi gwneud hynny eto ym mis Ebrill pe na bai wedi'i gohirio oherwydd y cyfnod cloi. At y ddau achlysur fe wnes i helpu’r cerddwyr y gwnes i helpu i’w ‘gwarchod’ i weld y Gwastadeddau, eu hanes a’u pwysigrwydd i fioamrywiaeth de ddwyrain Cymru, mewn golau newydd. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at helpu ar y daith hon eto.

Norman Liversuch


Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw.  rwilliams@gwentwildlife.org