Llwybr Cerfluniau: Y Pysgotwr
I ddathlu'r bysgodfa rwyd gafl yn y Garreg Ddu, a’r holl bysgodfeydd traddodiadol a arferai weithredu ar hyd Aber Afon Hafren, rydym wedi gosod cerflun newydd yn ardal bicnic y Garreg Ddu, o’r enw ‘Y Pysgotwr’.
Am o leiaf 300 mlynedd, mae pobl leol wedi bod yn pysgota am eog yn y dyfroedd o amgylch y Garreg Ddu gan ddefnyddio rhwydi gafl draddodiadol, ffrâm bren siâp ‘Y’ a rhwyd. Ar un adeg roedd y math hwn o bysgota yn arferiad cyffredin ar yr Hafren, ond y bysgodfa rhwydi gafl yn y Garreg Ddu yw'r unig un sy'n parhau i weithredu ar yr aber.
I ddathlu treftadaeth bysgota'r ardal gwnaethom gomisiynu cerfiwr llif gadwyn lleol Chris Wood i greu ffigwr pren o bysgotwr yn cerdded trwy'r glaswellt yn yr ardal bicnic, fel petai’n cerdded trwy ddŵr, yn dal rhwyd gafl, gydag eog pren yn llamu allan o'r glaswellt o'i flaen. Cafodd ei fodelu ar Martin Morgan, aelod o Bysgotwyr Rhwydi Gafl y Garreg Ddu.
Y ffigwr derw anferth 2.4m o daldra, sy'n pwyso 1.8 tunnell, yw'r cyntaf mewn cyfres o gerfluniau sy'n cynrychioli ffigurau allweddol yn hanes y Gwastadeddau.
Oriel
Mae'r cerflun yn cael ei gynhyrchu gan Chris Wood o Wood Art Works, cerflunydd lleol wedi'i leoli yng Nghaerllion. Mae Chris wedi gweithio ar gannoedd o brosiectau ledled y wlad ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Cawr Fferm y Fforest yng Nghaerdydd, ffigwr enfawr 5.5m o daldra wedi'i gerfio o secwoia anferth.