Llwybr Cerfluniau: Y Peiriannydd

Dathliad yw’r Peiriannydd o holl ddynion a menywod a adeiladodd y twnnel a'r ddwy bont sy'n croesi'r Hafren yn ogystal â'r morglawdd sy'n amddiffyn y Gwastadeddau.

Mae'r cerflun wedi ei ysbrydoli gan y peiriannydd sifil o'r 19eg ganrif Thomas A. Walker, a ymgymerodd y gwaith i gwblhau Twnnel Hafren ac a adeiladodd bentref Sudbrook ar gyfer gweithwyr y twnnel. Mae'r Peiriannydd yn sefyll ar ben yr hen lithrfa yn ardal bicnic y Garreg Ddu, yn syllu allan ar draws y dŵr tuag at Bont Tywysog Cymru.

Mae'r ffigwr 2.4m o daldra wedi ei gerflunio o ddur hindreulio (Corten) 4mm o drwch, sy'n rhoi golwg ddiwydiannol i'r cerflun. Mae dur corten hefyd yn ddeunydd gwydn ar gyfer amgylchedd garw’r lleoliad yn y Garreg Ddu, gyda’r haen allanol o rwd yn amddiffyn y metel oddi tano.

Mae'r cerflun wedi ei gerflunio o gyfres o baneli trionglog wedi'u weldio gyda'i gilydd. Mae geiriau, dyddiadau a delweddau syml wedi'u torri allan â laser ar rai o'r paneli mwy, sy'n adrodd hanes adeiladu Twnnel Hafren. Mae’r ffigwr yn dal model o bentref Sudbrook yn ei law dde, a'r fynedfa i'r twnnel ar ddarn o gledrau rheilffordd pen tarw.

Mae'r ffigwr yn wag oddi mewn heb gefn iddo, sy’n caniatáu i olau’r haul basio trwy'r paneli gan greu cysgodion diddorol ar y ddaear.

Dyluniwyd Y Peiriannydd gan y cerflunydd lleol Rubin Eynon.

Oriel