Llwybr Cerfluniau: Y Brinciwr 

mel+and+sarah.jpg

Mae’r Brinciwr yn dathlu rôl pobl gyffredin yng nghreadigaeth tirlun y Gwastadeddau.

Mae gan y Gwastadeddau ei ‘lingo’ unigryw ei hun. ‘Brinker’, neu ‘Brinciwr’ yw person sy'n berchen ar dir ar un ochr i ffos, wal neu gilfach ac sy'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw. Yn draddodiadol, byddai brinciwr yn defnyddio pladur i glirio llystyfiant i gadw dyfrffyrdd ar agor ac atal llifogydd.

Rhestrir dynion a menywod yng nghofnodion Llys y Carthffosydd, a gedwir yn Archifau Gwent, fel ‘brinkers’. Mae ein ffigwr wedi ei ysbrydoli gan Anne Williams (bu farw 1723), a oedd yn berchen ar dir wrth ymyl Monk’s Ditch yn Whitson a Clift Reen yn Allteuryn.

Mae'r cerflun yn sefyll oddeutu 2.5m o uchder ac wedi ei adeiladu ar fframwaith dur gan ddefnyddio helyg gwyn a brown wedi'u stemio i ychwanegu lliw a gwead. Mae dau safle nythu wedi eu gosod yn ei phocedi ar y naill ochr a'r llall. Mae hi'n sefyll ger ffos yng Ngwarchodfa Natur Cors Magwyr, yn gorffwys ar ei phladur.

Dyluniwyd ac adeiladwyd Y Brinciwr gan Sarah Hatton a Melanie Bastier.


Oriel

Cafodd Y Brinciwr sylw yn ddiweddar mewn darllediad o raglen Countryfile ar BBC1, lle ffilmiwyd cyflwynydd y sioe, Matt Baker, gyda’r cerflunwyr Sarah Hatton a Melanie Bastier.

Darlun cysyniad o’r ‘Brinciwr’.

RCDF acknowledgement.jpeg