Archeoleg

Dadorchuddio hanes hynafol Gwastadeddau Gwent

Mae pobl wedi byw ar Wastadeddau Gwent ers sawl mileniwm. Fe grwydrodd helwyr-gasglwyr y gwastadedd arfordirol yn ystod y cyfnod Mesolithig, bu i’r Rhufeiniaid adael eu holion yn ystod eu meddiant nhw, ac yn yr Oesoedd Canol fe adeiladwyd llawer o gestyll a ffosydd, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi diflannu mwy neu lai. Mae pobl wedi bod yma ers amser maith, a dros y blynyddoedd maent wedi siapio’r dirwedd mewn sawl ffordd.

Dros y degawdau diwethaf, mae’r ardal wedi dod o hyd i ddarganfyddiadau archeolegol anhygoel, o olion traed 6000 oed a marciau meysydd hanesyddol, i weddillion cwch o’r 13eg ganrif.  I gael mwy o wybodaeth amdanynt, rydym wedi trefnu wythnos yn llawn o weithgareddau a sgyrsiau archeolegol ym mhentref y Redwig. Yn ystod yr wythnos, bydd cyfle i bobl roi cynnig ar rai o’r technegau a ddefnyddiwyd i ddysgu mwy am y gorffennol a chyfle i bobl leol a’r gymdeithas ehangach wirfoddoli a chymryd rhan.

 

Archwilio'r Gwastadeddau

Dechreuon ni gyda sesiwn a oedd yn archwilio’r byd o fapio digidol. Weithiau, i ddysgu mwy am hanes yr henfyd, mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r technolegau a’r technegau mwyaf newydd ac arloesol. Aethom ati i archwilio sut mae mapio digidol yn cael ei ddefnyddio i ganfod safleoedd hynafol, a sut mae laseri a synwyryddion (LiDAR) yn cael eu defnyddio i greu mapiau 3D cymhleth ac addysgiadol. Bydd Gwastadeddau Byw yn peiriannu ac yn cynhyrchu map digidol rhyngweithiol cyhoeddus GIS, a fydd yn cynnwys treftadaeth y gwastadeddau, ac yn cael ei lansio yn nes ymlaen yn y prosiect.

Buom ar ddau arolwg i archwilio caeau lleol y Redwig. Mae’r cannoedd o gaeau sy’n creu Gwastadeddau Gwent wedi’u siapio gan waith llaw ers nifer o flynyddoedd. Cafodd y dirwedd ei chreu yn wreiddiol gan y Rhufeiniaid, drwy ddraenio’r tir gyda rhwydwaith o ffosydd a rhewynau. Fe wnaethant hyn gan fod Gwastadeddau Gwent yn is na lefel y môr. Felly, drwy greu’r rhwydwaith draenio, roedd y tir yn fwy addas ar gyfer ffermio. Mae rhywfaint o’u hoffer hynafol a thystiolaeth o’u gwaith yn dal i’w gweld hyd heddiw. Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr arolygon yn cael ei ddefnyddio ar ein map digidol ar-lein, sy’n amlygu potensial archeolegol y Gwastadeddau.

Ymunodd Jessica Morden AS â ni ar gyfer sesiwn i archwilio blaendraeth Aber Afon Hafren. Efallai fod y rhynglanw a’r traethellau yn llithrig a gwlyb, ond gallai fod yn drysorfa ar gyfer canfyddiadau archeolegol. Gydag arweiniad yr Athro Martin Bell, fe wnaethom sylweddoli fod blaendraeth y Redwig yn cael ei amlygu yn ystod llanw isel. Mae llawer o arteffactau wedi’u canfod yma dros y blynyddoedd gan eu bod wedi’u diogelu yn y mwd, gan gynnwys llu o anheddau o’r Oes Efydd yn y Redwig.

Mae gan Wastadeddau Gwent amrywiaeth arbennig o hen adeiladau unigryw hefyd. Enghraifft dda yw Eglwys St Thomas, yn y Redwig, sy’n enwog am ei dyluniad anarferol. Aethom ar daith dywys i archwilio, dogfennu a nodi rhai o’r strwythurau hyn. Bydd ein canfyddiadau’n cael eu cynnwys ar y map ar-lein o Wastadeddau Gwent hefyd.

Fe ddechreuon ni’r wythnos drwy archwilio Gwastadeddau Gwent gan ddefnyddio technoleg fodern, ond fe wnaethom orffen yr wythnos gyda dau ddigwyddiad a ddaeth â ni’n ôl i’r hanfodion. Ar 3-4 Awst, fe wnaethom ni’r gwaith caib a rhaw o gynnal tyllau prawf, sydd yn ei hanfod yn waith cloddio bychain ar raddfa 1m2 x1m2 i chwilio am arteffactau ac eitemau hynafol. Efallai fod mapio digidol yn ffordd wych o archwilio’r ardal am wrthrychau ac arteffactau diddorol, ond weithiau hen dechnegau sy’n gweithio orau! Fe wnaethom ganfod crochenwaith 250 oed, a les bobin o’r twll prawf tu ôl i’r hen dŷ tlawd.


Digwyddiadau yn y dyfodol

Yn dilyn y llwyddiant yn y Redwig, rydym ni’n bwriadu cynnal sesiwn blasu archaeoleg am wythnos eto flwyddyn nesaf, felly cadwch lygad am ein gweithgareddau archeoleg sydd ar y gweill ar ein calendr digwyddiadau ac ar wefan Dig Ventures, arweinydd y prosiect. Os na allwch chi aros tan hynny, fydd Gwastadeddau Byw yn cynnal Diwrnod Hanes ar 28 Medi yn Nhŷ Tredegar. Bydd yno stondinau a gweithgareddau addas ar gyfer pobl sydd wedi gwirioni â Hanes a theuluoedd ifanc. Cadwch lygad am weithgareddau sydd ar y gweill ar draws y Gwastadeddau Byw. Os ydych eisiau cyfrannu mwy, mae gennym lawer o gyfleoedd ar gael i wirfoddoli, felly cysylltwch â Swyddog Gwirfoddoli Gwastadeddau Byw ar Beccy.williams@rspb.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Mae gwefan GIS yn dal i gael ei datblygu ar hyn o bryd, ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'w llenwi.  Fodd bynnag am y tro, edrychwch ar ein map digidol o Wastadeddau Gwent yma. Mae’n rhoi darlun i chi o’r canfyddiadau archeolegol, y digwyddiadau hanesyddol a’r bywyd gwyllt amrywiol y gellir eu canfod ar Wastadeddau Gwent.