Dros y pedwar diwrnod diwethaf, mae grŵp brwdfrydig o archeolegwyr wedi cymryd rhan mewn cloddiad o balaeosianeli o’r Oes Efydd (2300 CC i 750 CC) ar flaendraeth Aber Afon Hafren yn Llanbedr Gwynllŵg, ar Wastadeddau Gwynllŵg.
Gyda’r Athro Martin Bell a’i dîm o Brifysgol Reading yn arwain, mae’r grŵp wedi bod yn dysgu am sut i chwilio, cloddio a chofnodi gwrthrychau archeolegol yn ogystal â sut i ddehongli’r darganfyddiadau a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am sut roedd pobl a bywyd gwyllt yn byw ac yn rhyngweithio yn ystod y cyfnod hwn.
Am ddeuddydd, heriwyd y grŵp gan y mwd rynglanwol, yn ogystal â thywydd garw ar y diwrnod cyntaf yn achosi llithriadau cyson yn y mwd! Roedd eu hymdrechion corfforol yn werth y drafferth gan iddynt ddod o hyd i wrthrychau pwysig, ac ar y diwrnod olaf, cludwyd y gwrthrychau hyn i Long Casnewydd i’w glanhau, cofnodi a’u prosesu. Ymhlith y darganfyddiadau roedd pyst pren a nifer fawr o esgyrn anifeiliaid, gan gynnwys cyrn carw coch trawiadol wedi eu marcio sawl tro. Mae bron yn sicr bod y cyrn yma wedi cael eu defnyddio fel darn o offer yn ystod yr Oes Efydd. Y prif ddarganfyddiad oedd darn prin o grochenwaith Bicer o’r Oes Efydd, a welir yn y llun isod.
Roedd adborth y cyfranogwyr am y digwyddiad yn gadarnhaol dros ben gyda phawb yn adrodd eu bod wedi mwynhau’r cwrs ac wedi dysgu mwy am dreftadaeth Gwastadeddau Gwent. Cyhoeddir adroddiad o’r darganfyddiadau yn y man a byddwn yn darparu crynodeb cyn gynted ag y bydd ar gael, felly cadwch olwg yma am ragor o wybodaeth.
Cymryd Rhan
Mae Lefelau Byw yn cynllunio gweithgareddau a digwyddiadau archeolegol eraill dros y ddwy flynedd nesaf, yn cynnwys mapio GIS a dadansoddi, cofnodi adeiladau, cloddio ar raddfa fechan a phyllau profi.
Am ragor o fanylion, e-bostiwch info@livinglevels.org.uk.