Ymwelwyr yn heidio o bell ac agos i’r Gwastadeddau i Ŵyl Gerdded!

IMG_3878.jpg

Unwaith eto, bu teithiau cerdded tywys ar Wastadeddau Gwent yn weithgaredd poblogaidd fel rhan o Ŵyl Gerdded Cas-gwent eleni, gan ddenu dros 60 pâr o draed mewn esgidiau cerdded i'n tair taith tywys! Yn ogystal â phobl leol, daeth cerddwyr o gyn belled â Chaerlŷr a Gwlad yr Haf i brofi hanes, treftadaeth a thirlun unigryw o Rogiet i geg yr Wysg, gan gynnwys antur uwchlaw ac ar draws Pont Gludo Casnewydd!

D47G8S5XoAAUo56.jpg

Methodd tywydd garw’r Gwastadeddau â digalonni’r 24 o gerddwyr dewr wrth i ni gychwyn ar ein taith gerdded gyntaf o hen iardiau trefnu Cyffordd Twnnel Hafren ym Mharc Cefn Gwlad Rogiet a phrofi chwe milltir o 'Grwydro Rheilffyrdd, ffosydd a choedwigoedd'. Fe ddeuthum ar draws polyn totem dirgel, twmpathau 4 troedfedd o uchder gan forgrug y coed, boncyffion yn diflannu (hwn oedd ein hardal ginio / lloches rhag y glaw i fod), ac i orffen hen 'Felin Wynt' ddiddorol.

IMG_3880.jpg

Y diwrnod canlynol, cawsom gyfle i weld y tirlun, sydd bennaf yn wastad, o rai o'r mannau uchaf ar Wastadeddau Gwent, fel rhan o daith gerdded ‘Gwastadeddau Gwent oddi fry’. Gan ddechrau gyda thaith fer yng Ngwlyptiroedd Casnewydd a chymryd y bont pontŵn sigledig, daeth amodau peryglus yr aber i’r amlwg wrth i hwrdd o wynt morwrol yn addas iawn dorri ar draws hanes rhyfeddol Goleudy Dwyrain Wysg (a gyflwynwyd gan wirfoddolwr Jeremy White) a mawredd mewn brics yr Orsaf Bŵer Aber-wysg (B) o’r 1950au. Yn ddigon priodol, ciliodd y glaw ar gyfer Eglwys y Santes Fair yn Nhrefonnen cyn darganfod nodweddion draenio'r caeau ar hyd y llwybr ar ein ffordd i ganol prysurdeb diwydiannol Dociau Casnewydd. Yna roedd 75 troedfedd o risiau dur yn wynebu rhai 24 cerddwr anturus, yn eiddgar i edmygu'r golygfeydd anhygoel (a’r haul yn tywynnu erbyn hyn) oddi ar un o'r pontydd cludo gweithredol olaf yn y byd. Diolch yn fawr iawn i’r gwirfoddolwyr a’r ffotograffwyr Norman a Rhiannon Liversuch (newydd ddychwelyd o Machu Pichu)!

IMG_3875.jpg

Arweiniwyd ein trydedd daith gerdded y Lefelau Byw, ar y cyd gyda’r gwirfoddolwr cerdded a’r ymchwilydd 'RATS' Maurice Turner, a chawsom ein tywys ar daith 8 milltir hynod ddiddorol o 'Eglwysi Gwastadeddau Gwent', gan gynnwys Eglwys Santes Fair yn Nhrefonnen gyda'i seddau caeëdig mewn cyflwr da, ysbïendwll (ffenestr fach yn y mur lle credir y byddai gwahangleifion yn medru gwylio’r gwasanaeth), marciwr llifogydd 1607, a deial wedi ei gerfio ar fur yr eglwys.

Darparwyd taith bersonol arbennig o eglwys Y Santes Fair Magdalen yn Allteuryn gan Phil Ward, lle gwelsom eu Helor i gludo Eirch, sy’n dal i fod mewn cyflwr da hyd heddiw. Cipolwg sydyn ar Eglwys y Santes Fair yn Whitson gyda'i dwr nodedig siâp gwniadur, a chinio i ddilyn yn Eglwys ganoloesol brydferth Sant Thomas yn y Redwig (ynghyd ag Wyau Pasg, rhodd garedig gan yr Eglwys!). Yna ymlaen i’r eglwys olaf, y Santes Fair ym Magwyr drwy'r 'Gors' – gyda chymorth medrus Dorothy Turner yn gofalu am y cerddwyr yng nghefn y daith.

Cadwch lygad ar ein ‘Calendr Digwyddiadau’ ar gyfer rhagor o gyfleoedd i wisgo’ch esgidiau cerdded unwaith eto ac ymuno â ni am fwy o deithiau tywys eleni, yn cynnwys cyfle arall i brofi'r Gwastadeddau oddi fry...