Miranda Krestovnikoff yn datgelu model tirwedd newydd yng Ngwlyptiroedd Casnewydd!

IMG_3094.jpg

Ar ddydd Sadwrn yr 8fed o Fehefin, fel rhan o lansiad prosiect 'Datgelu Gwastadeddau Gwent' y Lefelau Byw, fe wnaeth gohebydd bywyd gwyllt 'The One Show' ar BBC1, a llywydd yr RSPB, Miranda Krestovnikoff, helpu i ddadorchuddio cerflun efydd unigryw.

Mae'r cerflun, a grëwyd gan yr artist lleol, Ruben Enyon, yn dangos croestoriad o dirwedd Gwastadeddau Gwent, sy'n manylu ar y system ddraenio hanesyddol a'r amddiffynfeydd môr a'u rôl wrth gynnal y cynefinoedd a'r dirwedd fel y gallai ffermio, diwydiant a chymunedau ffynnu yno. Dywedodd Rheolwr Profiad Ymwelwyr yr RSPB, Helen Gottschalk, wrth y gynulleidfa am faint yr her i ddylunio, cynhyrchu, cludo a gosod y model 2.4m2 a gafodd ei gastio gan ffowndri MB Fine Arts - yr unig ffowndri yn Ne Cymru sy'n arbenigo mewn cynhyrchu castiau efydd, haearn ac alwminiwm i artistiaid a cherflunwyr. Yn ffodus mae gan Wlyptiroedd Casnewydd rwydwaith gwych o wirfoddolwyr parod ac, ar ôl sawl diwrnod o waith, llwyddwyd i osod y model!

Daeth nifer dda o Gynghorwyr Cymuned, grwpiau a chymdeithasau lleol i'r digwyddiad yn ogystal â theuluoedd i fwynhau'r gweithgareddau a oedd ar gael yn ystod y dydd, gan gynnwys arddangosiadau cwrwgl, gwneud fflintiau cynhanesyddol, peintio ogofau a chyfle i ‘gwrdd â milwr Rhufeinig’! Fe wnaeth yr Aelod Seneddol lleol Jessica Morden alw heibio i ddangos ei chefnogaeth - roedd yn fendigedig gweld cynifer o bobl frwdfrydig yn ymgasglu i ddarganfod mwy am hanes a threftadaeth wych Gwastadeddau Gwent!

Diolch i Gyllid Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, dim ond un o nifer o bethau newydd sydd i'w gweld yng Ngholfan Addysg Amgylcheddol ac Ymwelwyr yr RSPB yw'r model hwn Mae yna ofod arddangos bach newydd sy'n cynnwys map rhyngweithiol Realiti Estynedig o'r Gwastadeddau gan Andy O'Rourke (Malarky Arts), cerdd gan y bardd lleol enwog WH Davies ac amrywiaeth o esgyrn, offer a gwrthrychau cynhanesyddol o'r Oes Fesolithig, Neolithig ac Oes yr Efydd y mae modd eu cyffwrdd a'u trafod.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd yna hefyd gamerâu yn cael eu gosod i ddal lluniau byw i helpu ymwelwyr i weld y bywyd gwyllt sydd weithiau'n cuddio yng ngwelyau cyrs y Warchodfa Natur Genedlaethol. Dewch yn llu i'r Gwlyptiroedd i weld yr arddangosfeydd newydd cyffrous hyn!