Crëwyd yr adnodd dysgu ar gyfer y rheiny sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac mae’n canolbwyntio ar amgylchedd unigryw yn Ne Cymru. Bwriad yr adnodd yw cysylltu'r Cwricwlwm i Gymru â threftadaeth leol ddiddorol tirwedd Gwastadeddau Gwent. Bydd y wybodaeth a'r gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd yn rhoi'r wybodaeth a'r cyd-destun sydd eu hangen ar ymarferwyr dysgu i ysbrydoli dysgwyr ifanc i gysylltu â'r ardal arbennig hon, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored .
Mae'r adnodd yn darparu gwybodaeth gefndirol fanwl ar gyfer pob cwestiwn ac yna awgrymiadau o weithgareddau i'w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw, yn ogystal â gwefannau a llyfrau perthnasol i'w darllen. Mae nifer cyfyngedig o leoedd hyfforddiant i addysgwyr proffesiynol yn cael eu cynnal gan grewyr yr adnodd dros ddwy sesiwn ar 6 Mehefin a 8 Gorffennaf i annog defnydd ohono. Mae'r sesiynau hyn yn RHAD AC AM DDIM i staff ysgol gyda chyfraniad ar gael tuag at ddarpariaeth cyflenwi.
Mae'r adnodd ar gael am ddim i'w lawrlwytho o wefan y Lefelau Byw (https://www.lefelaubyw.org.uk/adnoddau-dysgu).
Ochr yn ochr â'r adnodd newydd, bydd ysgolion cynradd ar Wastadeddau Gwent hefyd yn cael cynnig copïau rhad ac am ddim o lyfr ffuglen newydd sbon i blant am fywyd cyn-hanesyddol ar Wastadeddau Gwent cyn iddynt gael eu hadennill o'r Môr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Yn dwyn y teitl ‘The Boar with the Apples on the Tusks’, mae'n adrodd hanes teulu lleol o helwyr-gasglwyr ac mae wedi'i ysgrifennu gan Dr Jennifer Foster sydd wedi treulio oes yn astudio archeoleg rynglanwol Aber Hafren. Fe fydd y llyfr hwn hefyd yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg.
Mae lansio'r llyfr a'r adnodd dysgu newydd hwn yn rhan o ymdrech ehangach i ddenu ysgolion i ymgysylltu â dysgu awyr agored a threftadaeth leol o dan raglen waith y Lefelau Byw. Mae digon o gyfleoedd eraill i ysgolion a grwpiau dysgu i ymwneud a'r Lefelau Byw nawr a thros y ddwy flynedd a hanner nesaf. Mae'r cyfleoedd presennol yn cynnwys rhaglen o weithdai gydag ysgolion yn darparu cymysgedd o theatr a chelf gyhoeddus, yn ogystal ag ystod o sesiynau dysgu awyr agored wedi'u lleoli ar nifer o safleoedd partneriaid y prosiect. Mae'n bosib y bydd cyfraniad at gostau cludiant ar gael ar gais.
I ddarganfod mwy am yr adnoddau dysgu ac i archebu lle ar y diwrnodau dysgu proffesiynol, anfonwch e-bost at Kathy Barclay, magormarsh@gwetnwildlife.org