Hwyl Gyda Helyg - hwyl i’r teulu yng Nghors Magwyr

GWT_2019_LL Willow Day_05__DSC5774.jpg

Wrth gerdded trwy Lefelau Gwent, byddwch yn siŵr o ddod ar draws coed helyg. Mae’r coed hyn, sy’n enwog am eu canghennau hir a llipa, yn ffynnu yn y gornel fach hon o dde ddwyrain Cymru. Mae’r rhwydwaith eang o ffosydd a ‘reens’ sydd yn croesi trwy Lefelau Gwent yn creu’r cynefin perffaith i goeden sydd yn hoff o dir gwlyb a llaith.

Mae coed helyg yn bwysig i’r amgylchedd. Maen nhw’n darparu bwyd i nifer o bryfaid ag adar, ac yn helpu i rwymo pridd ar gyrsiau dŵr, sydd yn helpu i leihau erydiad. Mae yna lawer o ddefnyddiau ymarferol i’w cael ganddynt hefyd, a dros y blynyddoedd, mae pobl wedi dysgu sut i ddefnyddio helyg fel deunydd i adeiladu pob math o grefftau ag eitemau defnyddiol. Roedd pobl oedd yn byw ar Lefelau Gwent ers talwm yn sicr yn defnyddio helyg ar gyfer hyn, ac yn creu basgedi, cychod cwrwgl a phob math o eitemau defnyddiol eraill allan o’r canghennau a brigau hyblyg ac ystwyth.

Ar 23 Chwefror, daeth dros 160 o bobl i Gors Magwyr i ddysgu rhai o’r hen sgiliau hyn mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Bartneriaeth Lefelau Byw ag Ymddiriedolaeth Natur Gwent. Daeth pobl o bob oed i gymryd rhan yn ‘Hwyl Gyda helyg’; diwrnod llawn gweithdai a chrefftau i ddysgu pobl sut i wehyddu helyg i bob math o eitemau defnyddiol a digri, fel pysgod, gwe a chlwydi.

GWT_2019_LL Willow Day_07__DSC5784.jpg

Roedd yna lawer o weithgareddau eraill, fel gwylio adar yn y guddfan, gweithdy barddoniaeth a chwis dan thema helyg.

Mi fydd yna ddigon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai tebyg dros y misoedd nesaf hefyd:

-          19 Mawrth: Darganfyddwch docbrennau Lefelau Gwent, 12.30yp yng Nghors Magwyr - cwrs i’ch helpu i adnabod ac arolygu coed hynafol pwysig a’r tocbrennau helyg ar Lefelau Gwent.

-          5 Ebrill: Helyg i’ch gardd, 10.00yb - 4.00yp yng Nghors Magwyr - cwrs mewn gwehyddu helyg a chreu basgedi trwy ddefnyddio helyg lleol traddodiadol.

Cadwch lygad allan am fwy o ddigwyddiadau trwy edrych ar ein calendr digwyddiadau am ddiweddariadau!