Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 21ain, fe ddenodd 'Bioblitz ar y Gwlyptiroedd' gymaint ag 1,217 o ymwelwyr i Wlyptiroedd Casnewydd gydag addewid y byddai tîm UK BioBlitz Chris Packham, oedd ar daith frysiog o amgylch Cymru, yn cyrraedd rywbryd yn y prynhawn...
Yn y cyfamser, gofynnwyd i'n ‘BioBlitzers’ dewr i gyflawni 'Helfa Estron’ o amgylch gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd i chwilio am y planhigion sy’n cripian a’r creaduriaid felltith hynny a allai fod yn fygythiad difrifol i 900 milltir o rewynau a ffosydd Gwastadeddau Gwent yn y dyfodol. Fodd bynnag, er mwyn hela’r dieithriaid estron, bu'n rhaid i'n 'Helwyr Estron' yn gyntaf ymgymryd â chwrs cyflym mewn Adnabod Rhywogaeth Oresgynnol yng nghanol bocsys 'Bio-berygl' a’r synau arswydus o faes ymarfer y ‘Living Levels Gazebo of Doom’...
Gyda’u llygaid wedi’u cuddio, roedd rhaid i’n Helwyr Estron ‘brofi trwy gyffwrdd' wrth iddynt geisio adnabod tair rhywogaeth oresgynnol posib o fewn bocsys Bio-berygl caeedig trwy osod eu dwylo trwy hollt cul ac astudio delweddau o wahanol ddihirod goresgynnol ar yr un pryd. Fe gafwyd canlyniadau digri dros ben ac wedi goresgyn y recriwtio anodd yma, cwblhaodd ein Helwyr dewr lwybr o amgylch y warchodfa yn hela rhywogaethau eraill o blanhigion ac anifeiliaid wrth gymryd rhan mewn helfa trychfilod a throchi mewn pwll. Gadawodd yr helwyr gyda’r wybodaeth ddiweddaraf o Rywogaethau Goresgynnol (gyda thaflen ffeithiau adnabod i'w hatgoffa) a chael cipolwg ar y dyn ei hun Chris Packham, wrth iddo gyrraedd gydag Iolo Williams, a thyrrodd ei gefnogwyr ynghyd er mwyn helpu bywyd gwyllt y Deyrnas Unedig. Fe gwrddodd hefyd â llawer o wirfoddolwyr ac arbenigwyr a oedd wedi cyfrannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd i'r diwrnod prysur yma.
Ar ddiwedd y dydd cawsom 320 o gofnodion a gyflwynwyd i Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC) - llwyddiant aruthrol!
Roedd yn ffordd ragorol o ddathlu amrywiaeth anhygoel Gwastadeddau Gwent, ac yn enghraifft wych o Bartneriaeth Tirlun Lefelau Byw ar waith. Diolch i bawb a gyfrannodd a sicrhau digwyddiad mor llwyddiannus!