Diwrnod Hwyl yr Haf i’r Teulu ar y Gwastadeddau yng Nghors Magwyr!

IMG_0082.JPG

Ar ddydd Sadwrn 14eg o Orffennaf, heidiodd 200 o bobl leol i Gors Magwyr, Gwarchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur Gwent, lle bu prynhawn llawn hwyl o weithgareddau ar gyfer y teulu oll. Nid oedd 17 o'r bobl wedi ymweld â Gwastadeddau Gwent o’r blaen, ac felly roedd y digwyddiad yma’n gyfle perffaith i ymgolli yn hanes a threftadaeth ddiddorol y tirlun arbennig yma. Roedd yn ddiwrnod llawn dathliadau treftadaeth a thraddodiadau Gwastadeddau Gwent gydag amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol i bob oedran, o drochi mewn pyllau am fywyd arbennig y ffosydd, ysgubo dôl am bryfaid bach diddorol, creu garanod allan o helyg, hyfforddiant pysgota â rhwydi gafl gyda siarcod ffug, paentio wynebau, creu printiau a mwynhau cacennau cartref blasus!
 
Heb os nad oni bai, Rudi y dyfrgi oedd un o brif atyniadau’r dydd, gyda’i bersonoliaeth ddrygionus yn denu cynulleidfaoedd trwy’r prynhawn wrth iddo blymio i mewn ac allan o drowsus a chrys ei ofalwr llawn mor ddeniadol, Daphne Neville o UK Wild Otter Trust!
 
Roedd y diwrnod yma’n un o nifer o ddigwyddiadau teuluol sy'n rhan o'n calendr blynyddol o ddigwyddiadau tymhorol, felly cadwch olwg ar ein tudalen digwyddiadau am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn y byd rhyfeddol ac arbennig o dreftadaeth Gwastadeddau Gwent!

IMG_0067.JPG
IMG_0140.JPG