Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 7fed, heidiodd dros 100 o bobl i’r cae chwarae yn Nhrefonnen ar gyfer y ffair flynyddol - ac roedd y Lefelau Byw yno hefyd! Cafodd plant lleol y cyfle i brofi hynt a helynt ein gwenyn mwyaf prin ar y Gwastadeddau, y gardwenynen fain. Er mwyn gwerthfawrogi’r wenynen, mae’n rhaid camu mewn i fyd y wenynen, a dyna'n union a wnaeth y plant wrth iddynt ddarganfod y berthynas rhwng peillwyr a blodau yn y gêm 'Brwydr y Gardwenynen Fain’.
eraill i ddiogelu dyfodol beillyddion Gwastadeddau Gwent!
Prosiect Peillio’r Gwastadeddau
Ar un adeg, roedd y gardwenynen fain i’w weld yn eang ar hyd a lled dde Lloegr ac iseldiroedd Cymru, gan ffafrio cynefinoedd blodau gwyllt fel twyni tywod, glaswelltiroedd a rhostiroedd sefydledig ond mae cynefinoedd bellach yn diflannu a Gwastadeddau Gwent yw un o’r ychydig gadarnleoedd ar gyfer y rhywogaeth. Nod Prosiect Lefelau Byw ‘Peillio’r Gwastadeddau’ yw sicrhau cynefin a dyfodol i'r rhywogaeth yma a brwydo’r tueddiad o rwygo ei gynefin yn ddarnau trwy gysylltu ardaloedd o gynefin blodau gwyllt at ei gilydd ar draws y tirlun. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen y prosiect.