Noson o haf yn datguddio cyfrinachau Casnewydd

Er gwaethaf gwres ysgubol noson braf o haf Trefesgob ac atyniad rownd terfynol Cwpan y Byd, fe ddaeth ymwelwyr i glywed yr awdur a’r hanesydd Andrew Hemmings yn cyflwyno penodau o’i lyfr 'Secret Newport' yn Neuadd Bentref Trefesgob ar nos Fawrth, Gorffennaf 10fed. Fe rannodd Andrew ei wir farn bersonol o Wastadeddau Gwent fel trysor cyfrinachol yn llawn hanes (a'i werthfawrogiad o ffordd dwnnel bach Trefesgob neu 'borth hud') – yn ogystal â chyflwyno detholiad o straeon am arwyr a dihirod Casnewydd yn amrywio o gudd-deithwyr Shackleton (a'u cathod) i ddigwyddiad a fu bron yn ddigwyddiad rhyngwladol yn Nociau Casnewydd yn ystod ymweliad pobl bwysig â llong rhyfel…

Cafodd ymwelwyr hefyd gyfle i weld y ffilm ‘Discovering our Living Levels’ ar sgrin (weddol) o faint ac i ddarganfod sut i gymryd rhan yn y 24 prosiect sydd ar gael.

Cadwch olwg ar ein tudalennau digwyddiadau ar gyfer pellach yn ystod y flwyddyn!