Fe gynhaliwyd Bioblitz Cors Magwyr i’r Teulu ar ddydd Sadwrn 16feg o Fehefin o 1-4yp. Roedd 18 o wirfoddolwyr a 7 aelod o staff yn bresennol yn cynnal archwiliad biolegol trylwyr o'r safle. Ymunodd 10 aelod brwdfrydig o'r cyhoedd yn y digwyddiad hefyd. Rhyngddynt, llwyddwyd i gofnodi nifer o gannoedd o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys y gwalchwyfyn poblogaidd, chwilen hirgorn llwyd euraidd (golden-bloomed grey longhorn beetle), gardwenynen gyffredin a chorryn cwpwrdd (pryf cop ‘false widow’ na chaiff ei gofnodi yn aml yng Ngwent). Efallai bod y tywydd a digwyddiadau eraill wedi effeithio ar y nifer o ymwelwyr ond ni rwystrodd hyn ein brwdfrydedd i ddysgu mwy am natur.
Roedd yr adborth am y digwyddiad yn gadarnhaol dros ben; dywed pawb eu bod wedi dysgu pethau penodol iawn am natur ac wedi dysgu llawer oddi wrth ei gilydd hefyd. Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr eu bod bellach yn gallu adnabod y gardwenynen fain ac wedi dysgu sut i ddal gwenyn yn ddiogel er mwyn iddo allu dangos i eraill sut i wneud hyn a chynnal trawsluniau ar safleoedd eraill. Ar ddiwedd y dydd, gofynnodd un bachgen i’w Dad, “Allwn ni plîs brynu trap gwyfynod!". Gwych i’w glywed - rydym yn falch dros ben o fod yn creu mwy o lysgenhadon dros natur anhygoel a bywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent!