Llys Carthffosydd

Yn 1531, pasiodd y brenin Harri VIII y Ddeddf Carthffosydd, gan greu Comisiynwyr a Llysoedd Carthffosydd i oruchwylio'r gwaith o reoli corstiroedd arfordirol, tir amaethyddol cynhyrchiol ond yn dueddol o gael llifogydd.

Gwnaed tirfeddianwyr unigol yn gyfrifol am gynnal amddiffynfeydd môr a ffosydd draenio, a’u gorfodi gan y Llysoedd i wneud y gwaith.

Sefydlwyd Llys Carthffosydd Sir Fynwy, sy'n goruchwylio Gwastadeddau Gwent, tua 1640. Roedd y Llys ar waith am y 300 mlynedd nesaf nes diddymwyd Deddf Carthffosydd yn 1930 gan y Senedd a'i ddisodli gan Ddeddf Draenio Tir. Cafodd y Llys ei ddisodli yn 1942 gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-Coed a Gwastadeddau Gwynllŵg.

Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, gan gofnodi ffiniau caeau, draenio ac amddiffynfeydd môr. Cynhyrchwyd dau lyfr o fapiau, un ar gyfer Gwastadeddau Cil-y-Coed ac un ar gyfer Gwastadeddau Gwynllŵg. Mae'r gwaith yn costio tua £440 (£27,000 yn 2018). Mae'r mapiau hardd yma bellach wedi'u cadw yn Archifau Gwent. Wrth eu gosod ar ben mapiau AO modern neu luniau o'r awyr, mae yna gryn dipyn o gydymffurfiaeth.

Yn 2015, aeth y cyfrifoldeb i reoli'r Lefelau i Gyfoeth Naturiol Cymru, gan ddod i ben â 400 mlynedd o reolaeth leol ar y Gwastadeddau.

Map Comisiynydd Carthffosydd i Drefonnen