Gwastadeddau Gwent Cynhanesyddol

Dychmygwch sefyll yn agos i’r morglawdd yn Allteuryn 10,000 mlynedd yn ôl. Beth fyddech chi'n ei weld?

Wedi mil o flynyddoedd, mae'r Oes yr Iâ wedi dod i ben ac mae oerfel y tywydd arctig wedi ildio i hinsawdd fwynach. Mae'r rhewlifoedd a oedd unwaith yn gorchuddio’r Alban, gogledd Lloegr a llawer o Gymru wedi cilio tua'r gogledd. Yn fyd-eang, mae lefelau môr yn llawer is i gymharu â heddiw, ac mae'r arfordir yn gorwedd tua 130km i'r gorllewin.

O'ch blaen chi, yn ymestyn i'r gorwel pell ar hyd beth fydd yr aber Hafren, mae gwastadedd eang isel. Ar yr ochr bellaf mae’r Afon Hafren yn llifo mewn ceunant dwfn ar ei daith i'r môr. Mae’r hyn a fu unwaith yn dwndra rhewllyd, ddiffaith, bellach yn goedwig dderw eang, gyda cheirw, baeddod gwyllt, eirth, bleiddiau a grwpiau bach o helwyr dynol yn crwydro. Mae Allteuryn yn fryn creigiog ar ymyl y gwastadedd sy’n llawn o goed, efallai 1km o hyd a 500m o led.

Dros y 3,000 mlynedd nesaf mae lefelau môr yn parhau i godi wrth i rewlifoedd yn Sgandinafia a Chanada doddi a rhyddhau llawer iawn o ddŵr. Mae'r arfordir pell yn symud i fyny’r gwastadedd yn achlysurol nes ei fod yn gorwedd ar ei safle presennol.

Erbyn 7,700 o flynyddoedd yn ôl, mae'r gwastadedd coediog wedi boddi o dan ddyfroedd yr aber sy’n codi, a bellach mae'r dŵr agored wedi'i gwmpasu gan wlyptir eang. Mae morfa heli, gyda’i gilfachau llanw troellog, yn ymestyn i mewn i'r aber, tra ymhellach i mewn i'r tir, tuag at y bryniau isel, mae corsydd, pyllau dŵr croyw agored a choetir gwlyb. Yn cartrefu yn y cynefin dyfrllyd hwn mae garanod, crehyrod ac adar dŵr eraill, ynghyd ag elc, ceirw, a’r ych hirgron mawr, hynafiaid dychrynllyd gwartheg heddiw.

Mae Allteuryn yn ynys o fewn y corsydd, sy'n goruchafu'r gwlyptir o'i amgylch. Yn ystod y misoedd haf sychach, mae grwpiau bach o bobl Fesolithig sy’n hela-gasglu yn mynd i'r ynys i bysgota yn y dyfroedd bas, yn hela anifeiliaid, yn casglu planhigion, ac yn adeiladu gwersylloedd ar ffiniau’r ynys, gan ddychwelyd i dir uwch cyn i’r tywydd gwlyb gaeafol gyrraedd.

Heddiw, ychydig iawn sydd ar ôl o’r tirlun hynafol hwn sydd wedi hen ddiflannu. Erydodd yr ynys gan y môr canrifoedd yn ôl, gan adael y bryn bychan a feddiannir gan Bysgodfa Allteuryn, Hill Farm a'r tŵr crwn a welir heddiw, ac mae'r gwlypdiroedd wedi cael eu draenio a'u dofi gan genedlaethau o ffermwyr.

Ond mae tystiolaeth o'r cyfnod hwn i’w weld yn ystod llanw isel ar hyd ymyl lle unwaith y bu Ynys Allteuryn. Mae mawn du, wedi'i osod gan lystyfiant y gors, yn ymwthio allan o dan fwd yr aber, ac yma mae siapiau’n amlinellu coed derw wedi disgyn, gweddillion y goedwig hynafol a foddwyd gan lefelau’r môr yn codi.

Mae tystiolaeth hefyd o'n hynafiaid. Mae cloddiadau dwfn yng ngwely'r aber wedi datgelu esgyrn anifeiliaid, fflintiau wedi eu defnyddio, offer pren, trapiau pysgod a gweddillion tanau golosg, wedi'u diogelu’n dda o fewn llaid gwych yr aber.

Yr hyn sy’n fwy anhygoel yw bod rhai o olion traed y bobl hynafol hyn hefyd wedi goroesi. Wedi eu gorchuddio â haenau o laid wedi eu cario ar lanw ar y diwrnod y cawsant eu creu, mae'r olion traed wedi'u diogelu am filoedd o flynyddoedd o dan haenau o fwd. Maent yn datguddio’n raddol gan erydiad y llanw, ond i’w golchi ymaith eto o fewn ychydig ddyddiau.

Mae archeolegwyr wedi bod yn astudio'r olion traed hyn ers bron i 20 mlynedd. Maent wedi gallu dilyn unigolion a grwpiau o bobl, llawer ohonynt yn blant, wrth iddynt symud drwy'r morfa heli a fflatiau llaid, gan greu darlun manwl o'u symudiadau.

Mae'r olion traed anhygoel hyn yn fyrhoedlog ond eto wedi goroesi am filoedd o flynyddoedd - cipluniau o ddiwrnod o haf – ac yn gyswllt uniongyrchol i dirlun gwyllt hynafol Gwastadeddau Gwent ac i'n hynafiaid a fu'n byw yma tua 7,000 o flynyddoedd yn ôl.


Anogir ymwelwyr i edrych o'r morglawdd a dychmygu sut dirlun oedd yma yn hytrach na mentro i'r ardal rhynglanwol. Mae'r ardal rhynglanwol yn le peryglus gyda thraeth byw, mwd dwfn a chreigiau llithrig sy’n cael eu gorchuddio gan lanw cyflym. Mae'r safleoedd archeolegol yn fregus ac yn hawdd eu niweidio. Mae hefyd yn Warchodfa Natur ac yn gynefin sensitif i adar.