Dros ddeuddydd ar y 7fed ac 8fed o Fehefin, croesawodd Ymddiriedolaeth ar gyfer Cadwraeth Cacwn a Buglife Cymru wirfoddolwyr lleol i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau adnabod gwenyn ym Magwyr. Yn ystod y cwrs i ddechreuwyr ar y dydd Iau, cafodd y grŵp o 15 o wirfoddolwyr fodd i fyw wrth iddynt ddod o hyd i’r gardwenynen fain prin (Bombus sylvarum) - un o wenyn prinnaf y wlad sydd bellach wedi'i gyfyngu i nifer fechan o safleoedd yn Ne Cymru a De Lloegr. Ar y diwrnod canlynol, yn ystod y cwrs Canolraddol, canfuwyd y 13 o wirfoddolwyr gwenynen brin arall sef y gardwenynen gyffredin frown (Bombus pascuorum), yn ogystal â’r wenynen durio swil (Andrena cineraria). Cofnododd y grŵp 8 rhywogaeth ar y safle a chanfuwyd breninesau, gweithwyr a gwrywod o amrywiaeth o rywogaethau. Mynegodd nifer o'r gwirfoddolwyr a fynychodd y digwyddiadau ddiddordeb mewn sefydlu Taith Gerdded Gwenyn yng Ngwastadeddau Gwent a thu hwnt, a fydd yn gyfle gwych i gasglu data gwerthfawr ar ddosbarthiad rhywogaethau prin fel y gardwenynen fain. Cadwch olwg yma am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn Teithiau Cerdded Gwenyn a gweithgareddau eraill i ddiogelu dyfodol beillyddion Gwastadeddau Gwent!
Prosiect Peillio’r Gwastadeddau
Ar un adeg, roedd y gardwenynen fain i’w weld yn eang ar hyd a lled dde Lloegr ac iseldiroedd Cymru, gan ffafrio cynefinoedd blodau gwyllt fel twyni tywod, glaswelltiroedd a rhostiroedd sefydledig ond mae cynefinoedd bellach yn diflannu a Gwastadeddau Gwent yw un o’r ychydig gadarnleoedd ar gyfer y rhywogaeth. Nod Prosiect Lefelau Byw ‘Peillio’r Gwastadeddau’ yw sicrhau cynefin a dyfodol i'r rhywogaeth yma a brwydo’r tueddiad o rwygo ei gynefin yn ddarnau trwy gysylltu ardaloedd o gynefin blodau gwyllt at ei gilydd ar draws y tirlun. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen y prosiect.