Miranda Krestovnikoff yn lansio Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw!

Croesawodd Partneriaethau Lefelau Byw dros 110 o bobl o'r ardal leol ar gyfer Lansiad Swyddogol y Bartneriaeth Tirlun Lefelau Byw ar Fai 24ain yn Sefydliad Lysaghts yng Nghasnewydd. Roedd yr achlysur yn gyfle i ddiolch i'r partneriaid a'r rhai a fu'n gysylltiedig â sicrwydd buddsoddiad CDL dros yr holl flynyddoedd a gymerwyd i gynllunio a datblygu'r Bartneriaeth Lefelau Byw.

Photo 24-05-2018, 13 00 02.jpg

Agorwyd y Lansiad gan Arlywydd RSPB ac wyneb cyfarwydd Miranda Krestovnikoff a roddodd araith ysbrydoledig yn gosod gweledigaeth uchelgeisiol y partneriaid ar gyfer Gwastadeddau Gwent. Tanlinellodd sut y bydd y rhaglen Lefelau Byw yn gweithredu fel catalydd i'r partneriaid i osod gweledigaeth hirdymor ar gyfer Gwastadeddau Gwent i sicrhau adnewyddu a goroesiad y tirlun yma ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Roedd lleoliad y lansiad, Sefydliad Lysaghts (neu’r 'Stute' fel yr adnabyddir yn lleol), yn perthyn unwaith i waith dur Orb ac yn ei ddydd yn cyflogi 3,000 o bobl leol ac yn le bywiog i’r gymuned ymgynnull gyda digwyddiadau cymdeithasol i'r gweithwyr dur a'u teuluoedd. Roedd cynnal y Lansiad yma yn driw i werthoedd y Bartneriaeth sy'n ymwneud â deall a gwerthfawrogi treftadaeth leol.

Ochr yn ochr â phrif anerchiad Miranda, clywid lleisiau gan y gymuned leol yn dangos eu cefnogaeth i'r cynllun. Agorwyd y digwyddiad gan Gadeirydd Bwrdd Lefelau Byw, Tony Pickup sydd wedi bod yn weithgar gyda chadwraeth ar y Gwastadeddau ers dros 30 mlynedd, wrth groesawu a diolch i’r gwesteion. Yna, fe groesawyd pawb i’r 'Stute' gan y Cyng. Jeavons, aelod ward dros Llyswyry, trwy fynegi ei falchder o fod yn rhan o'r prosiect cymunedol arbennig hwn yn ardaloedd trefol a gwledig yng Nghasnewydd. Mynegodd Anna Harris o Gyngor Cymuned Allteuryn sy’n ‘Lefelydd’ o bedair cenhedlaeth, ei llawenydd wrth weld y cynlluniau ar gyfer y Gwastadeddau yn dwyn ffrwyth ar ôl cefnogi'r prosiect ers i'r hadau cyntaf gael eu plannu tua saith mlynedd yn ôl. Cynrychiolodd y myfyriwr ffotograffiaeth James Baker ei gyd-fyfyrwyr o Gwrs Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth o Goleg Gwent, a fu'n gweithio mewn partneriaeth â Lefelau Byw am y flwyddyn ddiwethaf i gofnodi straeon tirlun Gwent ar gamera. Dywedodd James nad oedd ganddo "ddim syniad" am dreftadaeth anhygoel y Gwastadeddau cyn cychwyn y prosiect a’i fod yn falch iawn o’r cyfle i gael bod yn rhan o brosiect mor ddiddorol i ddatguddio treftadaeth gudd yr ardal er mwyn i eraill fwynhau. Diolchwyd Partneriaid Lefelau Byw gan Pete Britton, Cyfarwyddwr y Cwrs Ffotograffiaeth, am roi'r cyfle i'r myfyrwyr fod yn rhan o'r prosiect cymunedol arbennig yma.

Cyflwynwyd arddangosfa 'Lefelau trwy Lens' gan fyfyrwyr Coleg Gwent yn ystod y lansiad ac yn nawr, bydd yn teithio ar draws lleoliadau’r Gwastadeddau, gan ddechrau yng Ngwlyptiroedd Casnewydd ar Fehefin yr 2il - 3ydd. Nod prosiect 'Lefelau trwy Lens' yw adeiladu llyfrgell ddelweddau cyfoes o bopeth ynghlwm â Gwastadeddau Gwent, o geg Afon Rhymni i ffiniau Cas-gwent. Mae'r delweddau sydd wedi dod i'r amlwg yn agoriad llygaid ac yn ddeinamig. Mae'r llunia’n canolbwyntio ar elfennau dynol a naturiol o fewn ardal Gwastadeddau Gwent yn ogystal â cheisio dogfennu barn a newid cymdeithasol.

Fe ddenwyd y Lansiad pobl o Bartneriaethau’r Lefelau Byw a rhanddeiliaid, Cynghorwyr Ward a Chymuned leol, grwpiau cymunedol a buddiant yn ogystal â thrigolion lleol. Hyfryd oedd gweld John Griffiths AC yn bresennol i ddangos ei gefnogaeth i'r cynllun a'r prosiectau.

Trwy gydol y Lansio, roedd teimlad o gyffro a chynnwrf anhygoel, ac mae'r Partneriaid yn falch iawn o fod yn symud ymlaen i gyfnod gweithredu rhaglen y Lefelau Byw.

BCV_9394.jpg