O fewn lleoliad godidog Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, mae ‘Bywyd ar y Lefelau’ yn ymateb ffotograffig dogfennol o gyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd ar draws Wastadeddau Gwent gan Marsha O’Mahony a’i thîm o wirfoddolwyr.
O fewn y geiriau a’r delweddau, ei gobaith yw cadw gafael ar leisiau ac atgofion sydd mewn perygl o ddiflannu.
Bydd etifeddiaeth y gwaith yma yn helpu i warchod a dehongli hanes byw y gornel hynod ddiddorol hon o Gymru, a anwybyddir yn aml, gan roi llais a lle i’r gymuned yn hanes y tirlun hwn
Adeilad y Pierhead, Oriel y Dyfodol
AM DDIM