Bydd y bardd arobryn Ben Ray yn dwyn ynghyd barddoniaeth a thystiolaeth hanes llafar Gwastadeddau Gwent mewn gweithdy sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng y ddau, yn creu barddoniaeth o dystiolaeth amrwd.
Gyda’r nos, bydd Ben yn perfformio cerddi a baratowyd ymlaen llaw o dystiolaethau a recordiwyd o Wastadeddau Gwent.
Nid oes angen profiad blaenorol o farddoniaeth neu recordio hanes llafar arnoch chi. Dewch i roi cynnig arni neu dewch i’r perfformiad am ddim gyda’r nos!
Capel Tredelerch
AM DDIM RHAID ARCHEBU LLE