Mar
25
7:00 pm19:00

'Llanw a thrai': enwau lleoedd a shifft iaith ar Wastatiroedd Gwent

Bydd y sgwrs hon yn edrych ar enwau lleoedd Gwastatiroedd Gwent a'r dystiolaeth y maent yn ei darparu ar gyfer newid iaith rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Ar wahanol adegau, mae'n ymddangos bod iaith y gwastatiroedd hyn wedi newid o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg, proses sydd wedi gadael ei hôl ar enwau lleoedd yr ardal unigryw hon.

'Cyflwynir y digwyddiad cyfrwng Saesneg hwn ar Zoom.

011 Redwick crop 2.jpg
View Event →
Jan
20
7:00 pm19:00

1607: Llifogydd mawr Aber Hafan - sgwrs ar-lein gan Rose Hewlett

Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod mwy am y marciau llifogydd a geir ar eglwysi o amgylch Gwastadeddau Gwent?

Yn ôl pamffled newyddion, cafodd y lleoedd hyn eu 'boddi' yn 1607. A’i dyma’r gwirionedd?:

Mathern, St Pierre, Porthsgiwed, Cil-y-Coed, Ifton, Rogiet, Llanfihangel, Gwndy, Magwyr, Wilcrick, Trefesgob, Llanwern, Milton, Y Redwig, Whitson, Allteuryn, Trefonnen, Eglwys y Drindod, Langstone, Bassaleg, Llansanffraid Gwynllŵg, Llanbedr Gwynllŵg, Maerun, Tredelerch, Lamby a Llaneirwg.

Hoffech chi gael help i ddeall ffeithiau'r llifogydd?

Faint o'r hyn rydyn ni ei gredu sydd mewn gwirionedd yn llên gwerin boblogaidd yn unig?

I nodi 414 mlwyddiant y digwyddiad enwog hwn, bydd Rose Hewlett yn rhannu peth o'r ymchwil y mae wedi'i wneud mewn cysylltiad â'i PhD ym Mhrifysgol Bryste.

Cyflwynir y digwyddiad hwn ar Zoom. (chwedl yn Saesneg)

1607+Flood+coloured+woodcut+copyright+Rose+Hewlett.jpg
View Event →
Dec
16
7:30 pm19:30

AD-DREFNU: Barddoniaeth Cymru: perfformiad byw barddonol gyda Ben Ray

Ymunwch â’r bardd arobryn cyhoeddedig Ben Ray ar gyfer taith lenyddol ar-lein o amgylch Cymru a’r ffiniau Cymreig wrth iddo berfformio awr o farddoniaeth yn archwilio tirwedd y wlad, o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu i arfordir gwyllt a gwyntog Sir Benfro.

Mae gan Ben dri chasgliad wedi eu cyhoeddi, yn ogystal ag ennill Gwobr Beirdd Newydd 2019 a Bardd Preswyl yng Ngŵyl Farddoniaeth Cheltenham 2020. Mae wedi perfformio mewn digwyddiadau ledled y DU ac mae’n “lais barddonol ffres a gwreiddiol - yn llawn ffraethineb, troeon trwstan, rhyfeddod, adleisiau a heriau.” (Alan Rusbridger, cyn-olygydd The Guardian). 

Mwy o wybodaeth yma: www.benray.co.uk 

Facebook Live: Living Levels Facebook page

Ben Ray profile shot.jpg


View Event →
Dec
13
7:30 pm19:30

Taith y Gaeaf

Dewch i deithio gyda ni trwy goed y gaeaf i chwilio am y Capel Gwyrdd a'r hyn sy'n ein disgwyl yno….

 Bydd Christine Watkins yn adrodd stori ‘Gawain a’r Marchog Gwyrdd’ drwy’r Saesneg, Blanche Rowen a Mike Gulston gyda chaneuon tymhorol rhyfeddol -

Bydd gwledda a pherygl, difyrrwch a dryswch -

ac fe'ch gwahoddir ar y daith - o gysur eich cadair freichiau eich hun...

Bydd y digwyddiad ‘Sain Byw y Lefelau!’ rhad ac am ddim yma yn cael ei gyflwyno ar Zoom. Fe anfonir gwahoddiadau fel rhan o’ch archeb (os nad ydych chi wedi lawrlwytho Zoom yn barod, cofiwch wneud cyn y digwyddiad!)

(chwedl yn Saesneg)

Christine dark.jpg
duo.jpg
View Event →
Dec
4
7:00 pm19:00

Y Feiolinydd Katie Batchelor: Alawon ar gyfer Adfent

Ymunwch â ni am gig ar-lein tymhorol ‘Sain Byw y Lefelau!’ gyda’r feiolinydd Katie Batchelor.

Digwyddiad Facebook Live yw hwn felly cofiwch wylio ar ein tudalen Facebook Lefelau Byw

Ymunwch â Katie am rai o'i hoff alawon Nadoligaidd yn ogystal â sgwrs am ambell dôn!

Rhaglen:

Once in royal David’s City/ Silent Night/ Gaudete/ Il est ne le divin enfant/ Deck the halls/ Lullay mine liking/ Jesus Christ the apple tree /Angelus ad virginem/ In dulci jubilo/ Sussex carol/ Extract from 'Winter' (Vivaldi)/ O little town of Bethlehem/ In the bleak midwinter/ It came upon a midnight clear/ I saw three ships come sailing in/ Good King Wenceslas/ Away in a manger/ / Angels from the realms of glory/ Hark the Herald angels sing/ The first Nowell/ Lo he comes with clouds descending/ O come all ye faithful/ Jingle Bells

Meddai Katie, “Fe wnes i orffen fy hyfforddiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddar, a bellach wedi gwneud Caerdydd yn gartref i mi. Mewn amgylchiadau arferol, rwy’n mwynhau chwarae mewn sawl sesiwn werin fisol yn ogystal â jamio ac ymarfer gyda ffrindiau, ac yn aml fe welwch chi fi yn bysgio a gigio yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Pontypridd a Merthyr Tudful, naill ai’n unigol neu gydag un o fy ngrwpiau.”

Gallwch ddod o hyd i Katie ar Facebook Live (Facebook.com/katbatchelormusic) ac ar YouTube

Katie Christmas 2.jpg
View Event →
Nov
13
7:30 pm19:30

Taith y Gaeaf

Dewch i deithio gyda ni trwy goed y gaeaf i chwilio am y Capel Gwyrdd a'r hyn sy'n ein disgwyl yno….

Bydd Christine Watkins yn adrodd stori ‘Gawain a’r Marchog Gwyrdd’ drwy’r Saesneg, Blanche Rowen a Mike Gulston gyda chaneuon tymhorol rhyfeddol -

Bydd gwledda a pherygl, difyrrwch a dryswch -

ac fe'ch gwahoddir ar y daith - o gysur eich cadair freichiau eich hun... 

Bydd y digwyddiad ‘Sain Byw y Lefelau!’ rhad ac am ddim yma yn cael ei gyflwyno ar Zoom. Fe anfonir gwahoddiadau fel rhan o’ch archeb (os nad ydych chi wedi lawrlwytho Zoom yn barod, cofiwch wneud cyn y digwyddiad!)

Christine dark.jpg
duo.jpg
View Event →
Jun
27
2:00 pm14:00

GOHIRIO: 18 mlynedd o Long Ganoloesol Casnewydd!

Dewch i glywed am y darganfyddiadau diweddaraf yn Llong Ganoloesol Casnewydd mewn sgwrs a lluniau gan guradur y prosiect, Dr. Toby Jones.

Bydd diweddariadau ar ailosod ac arddangos y llong yn y dyfodol ynghyd â chyfle i weld gwrthrychau a chydio mewn darnau go iawn o’r llong! Bydd hefyd gweithgareddau i blant a theithiau tywys am ddim. Mae’r tegell ymlaen bob amser ac mae siop anrhegion fach hyfryd yn y ganolfan ymwelwyr.

Digon o le parcio am ddim ac mae mynediad am ddim.

Canolfan Llong Casnewydd

AM DDIM

FONS+2.jpg
View Event →
Jun
21
10:30 am10:30

GOHIRIO: Taith Gron Castell Cil-yCoed a’r Garreg Ddu

Gan ddechrau yng Nghastell Cil-y-Coed, mae’r daith yn dilyn llwybrau a ffyrdd i lawr i’r aber, gerllaw Pont Tywysog Cymru.

Yna mae’r daith yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru i fryngaer hynafol Sudbrook ac ymlaen i’r Garreg Ddu ar gyfer golygfeydd anhygoel dros yr aber, gan ddychwelyd trwy Porthysgewin.

Castell Cil-y-Coed

AM DDIM - RHAID ARCHEBU LLE

IMG_2981.jpg
View Event →
Jun
21
10:00 am10:00

GOHIRIO: Taith Gerdded Dywysedig: Adnabod Tegeirian

Mae gennym amrywiaeth hyfryd o Degeirianau ar Wastadeddau Gwent, yn enwedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Ymunwch yn ein taith gerdded dywysedig a darganfod y mannau gorau i weld ac adnabod gwahanol rywogaethau. Os ydym yn lwcus, fe ddown o hyd i’n prif rywogaeth, Tegeirian y Wenynen!

Gwlyptiroedd Casnewydd (£3 Parcio)

RSPB £6.40 / £8 pawb arall

RHAID ARCHEBU LLE

Capture2.JPG
View Event →
Jun
3
to 26 Jun

GOHIRIO: Arddangosfa Bywyd ar y Lefelau delweddau, lleisiau, atgofion

Ar lannau Afon Wysg, croesewir ymateb ffotograffig dogfennol o gyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd ar draws Wastadeddau Gwent gan Marsha O’Mahony a’i thîm o wirfoddolwyr. O fewn y geiriau a’r delweddau, ei gobaith yw cadw gafael ar leisiau ac atgofion sydd mewn perygl o ddiflannu.

Bydd etifeddiaeth y gwaith yma yn helpu i warchod a dehongli hanes byw y gornel hynod ddiddorol hon o Gymru, a anwybyddir yn aml, gan roi llais a lle i’r gymuned yn hanes y tirlun hwn.

Glan yr Afon Casnewydd

AM DDIM

PAUL CAULEY 12 (1 of 1).jpg
View Event →
May
29
12:00 pm12:00

GOHIRIO: Taith Gerdded Cŵn Dywysedig

Dewch â’ch cyfaill pedair coes mynwesol a mwynhewch daith gerdded dywysedig am ddim yn un o ryfeddodau cudd Gwastadeddau Gwent.

Cyfle gwych i ymestyn pob un coes, ein helpu i arolygu’r bywyd gwyllt a chymryd rhan yn Ymgyrch ‘Gadewch ond Olion Pawennau’ o dan ‘Carwch eich Caerdydd’.

Llyn yr Hendre

AM DDIM - RHAID ARCHEBU LLE

_MG_4760.jpg
View Event →
May
28
10:00 am10:00

GOHIRIO: Cyflwyniad i Sgiliau Arolygu Cynefinoedd Cam 1

Cyflwyniad i dechnegau Arolygu Cam 1 sy’n edrych ar wahanol fathau o gynefinoedd, mapio ac ysgrifennu nodiadau targed.

Bydd sesiwn yn yr ystafell ddosbarth yn y bore ac yna sesiwn ymarferol y tu allan yn y prynhawn i ymarfer yr hyn a ddysgwyd yn y bore.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o wybodaeth am gynefinoedd ac asesu ansawdd ond heb lawer o brofiad o gynnal arolygon Cam 1.

Dewch â chinio gyda chi a dillad addas ar gyfer tywydd gwlyb / heulog.

Cors Magwyr

£25 RHAID ARCHEBU LLE

frog bit.jpg
View Event →
May
26
1:00 pm13:00

GOHIRIO: Gweithdy Coginio a Chrefft Wyllt

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd yn ei ogoniant, felly beth am roi cynnig ar goginio a chrefft yn yr awyr agored?

Ymunwch ag arweinwyr Ysgol Goedwig hyfforddedig YNG am brynhawn o gynnau tân, coginio tân gwersyll traddodiadol a cherfio yng ngwarchodfa natur ryfeddol Cors Magwyr.

Cors Magwyr

Natur Gwent £5 / £7 pawb arall

RHAID ARCHEBU LLE

CREDIT GWT_2019_02_LL_Marshy Monday_03__DSC5946.jpg
View Event →
May
25
10:00 am10:00

GOHIRIO: Bwystfilod bach yn y Garreg Ddu

Darganfyddwch fwy am bryfetach rhyfedd, bwystfilod bach a chreaduriaid eraill yn y digwyddiad hwyliog yma i’r teulu oll. Llawer o gemau a gweithgareddau i’ch helpu i ddarganfod mwy am fywyd gwyllt, treftadaeth a hanes rhyfeddol ardal Gwastadeddau Gwent.

Plant i fod yng nghwmni oedolyn. Cŵn cymorth yn unig os gwelwch yn dda.

Safle Picnic y Garreg Ddu

AM DDIM


Magor Marsh June 16 4.JPG
View Event →
May
12
to 26 May

GOHIRIO: Y Lefelau Trwy Lens

O fewn lleoliad bendigedig yr Orendy yn Nhŷ Tredegar, nod yr arddangosfa hon o ffotograffiaeth, darlunio a ffilm fydd dod â’r straeon o dirlun Gwastadeddau Gwent yn fyw.

Cafodd myfyrwyr sy’n astudio tair gradd celfyddydau creadigol gwahanol yng Ngholeg Gwent (ffotograffiaeth, darlunio a chynhyrchu’r cyfryngau) y dasg o ‘ddal’ y tirlun unigryw yma a’i holl elfennau, a gellir gweld y canlyniadau yn yr arddangosfa hyfryd hon.

Tŷ Tredegar

Bydd costau mynediad arferol i’r Tŷ 
SESIWN ALW-HEIBIO

005.jpg
View Event →
May
9
10:00 am10:00

GOHIRIO: Helyg i’ch gardd

Roedd gweu helyg yn sgil traddodiadol ar Wastadeddau Gwent felly beth am ddod draw i Gors Magwyr i greu darnau hyfryd i’ch gardd. Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys technegau traddodiadol gwahanol o weu helyg a gwneud basgedi.

Cors Magwyr

Cadwch lygad ar y wefan am fanylion
RHAID ARCHEBU LLE

Obelisk-plant-support.jpg
View Event →
May
6
7:30 pm19:30

GOHIRIO: Adennill y tirlun hanesyddol

Darganfyddwch dirlun hanesyddol Gwastadeddau Gwent rhwng afon Gwy a Rhostiroedd Dwyrain Caerdydd gyda’n gwirfoddolwyr ymchwil hanes (y RATS) trwy sgyrsiau ar amrywiaeth o bynciau hynod ddiddorol.

Dewch i glywed barn ymwelwyr o ddechrau’r 19eg ganrif am y daith fferi ar draws yr Hafren, trefi Cas-gwent a Chasnewydd, a thirlun y Gwastadeddau.

Darganfyddwch sut mae tirlun hamddena heddiw yn cydweithio gyferbyn â’r systemau draenio hanesyddol a’r tywydd sy’n gysylltiedig â Môr Hafren.

Bydd hefyd arddangosfa o ymchwil arall y RATS i’w fwynhau yn ystod yr egwyl.

Neuadd Drill Cas-gwent

AM DDIM

Illustrated+Sporting+and+Dramatic+News+1944+(2).jpg
View Event →
May
4
12:30 pm12:30

GOHIRIO: Sgiliau Arolygu Llygoden Bengron y Dŵr

Bydd cyfle i chi ddysgu sgil gwerthfawr yn y gweithdy yma. Ymunwch â Swyddog Prosiect Llygoden Bengron y Dŵr yr YNG am brynhawn o ddysgu sut i arolygu un o’n rhywogaethau eiconig yng Ngwastadeddau Gwent, y Llygoden Bengron y Dŵr (Arvicola amphibus), yng ngwarchodfa natur hyfryd Cors Magwyr.

Cors Magwyr

£45 / AM DDIM i wirfoddolwyr
RHAID ARCHEBU LLE

Wild Watch.jpg
View Event →
May
2
11:00 am11:00

Ysgrifennu’r Gwastadeddau

Gweithdy dan arweiniad yr awdur a’r canwr Phil Owen sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu fel modd i ymgysylltu’n ddwfn â lle.

Gan ddefnyddio amrywiaeth o waith ysgrifennu am Wastadeddau Gwent ac amgylcheddau cysylltiedig, deunyddiau a gasglwyd gan ymchwilwyr Lefelau Byw, a’n profiad uniongyrchol ein hunain o’r tirlun, byddwn yn archwilio sut y gall ysgrifennu fod yn ffordd i wella ein perthynas â’r lle arbennig yma.

Yn addas ar gyfer pob lefel, yn brofiadol neu’n uchelgeisiol. Bydd costau arferol ar gyfer parcio.

Gwlyptiroedd Casnewydd (£3 Parcio)

AM DDIM

https___cdn.evbuc.com_images_82282597_176986096642_1_original.jpg
View Event →
Apr
20
to 29 May

LLEOLIAD AR GAU: Arddangosfa Bywyd ar y Lefelau delweddau, lleisiau, atgofion

Bydd Amgueddfa Cas-gwent yn croesawu ymateb ffotograffig dogfennol o gyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd ar draws Wastadeddau Gwent gan Marsha O’Mahony a’i thîm o wirfoddolwyr.

O fewn y geiriau a’r delweddau, ei gobaith yw cadw gafael ar leisiau ac atgofion sydd mewn perygl o ddiflannu.

Bydd etifeddiaeth y gwaith yma yn helpu i warchod a dehongli hanes byw y gornel hynod ddiddorol hon o Gymru, a anwybyddir yn aml, gan roi llais a lle i’r gymuned yn hanes y tirlun hwn.

Amgueddfa Cas-gwent

AM DDIM



BLACK ROCK FIN 15 (1 of 1).jpg
View Event →