Ymunwch â’r bardd arobryn cyhoeddedig Ben Ray ar gyfer taith lenyddol ar-lein o amgylch Cymru a’r ffiniau Cymreig wrth iddo berfformio awr o farddoniaeth yn archwilio tirwedd y wlad, o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu i arfordir gwyllt a gwyntog Sir Benfro.
Mae gan Ben dri chasgliad wedi eu cyhoeddi, yn ogystal ag ennill Gwobr Beirdd Newydd 2019 a Bardd Preswyl yng Ngŵyl Farddoniaeth Cheltenham 2020. Mae wedi perfformio mewn digwyddiadau ledled y DU ac mae’n “lais barddonol ffres a gwreiddiol - yn llawn ffraethineb, troeon trwstan, rhyfeddod, adleisiau a heriau.” (Alan Rusbridger, cyn-olygydd The Guardian).
Mwy o wybodaeth yma: www.benray.co.uk
Facebook Live: Living Levels Facebook page