Dewch i deithio gyda ni trwy goed y gaeaf i chwilio am y Capel Gwyrdd a'r hyn sy'n ein disgwyl yno….
Bydd Christine Watkins yn adrodd stori ‘Gawain a’r Marchog Gwyrdd’ drwy’r Saesneg, Blanche Rowen a Mike Gulston gyda chaneuon tymhorol rhyfeddol -
Bydd gwledda a pherygl, difyrrwch a dryswch -
ac fe'ch gwahoddir ar y daith - o gysur eich cadair freichiau eich hun...
Bydd y digwyddiad ‘Sain Byw y Lefelau!’ rhad ac am ddim yma yn cael ei gyflwyno ar Zoom. Fe anfonir gwahoddiadau fel rhan o’ch archeb (os nad ydych chi wedi lawrlwytho Zoom yn barod, cofiwch wneud cyn y digwyddiad!)