Cwestiynau Cyffredinol – Rheolaeth Ffosydd

Mae tua 1200km o ffosydd caeau sy'n croesi'r Gwastadeddau y dylid eu cynnal gan dirfeddianwyr unigol.

Mae'r rheolaeth gyfnodol hon yn cynnwys yr angen i dynnu ymaith silt a rheoli twf llystyfiant ar lan y glannau.

Mae Gwastadeddau Gwent yn cynnwys cyfres o SoDdGA rhwng Cas-gwent a Chaerdydd. Mae diddordebau cadwraeth natur yn gysylltiedig â'r rhwydwaith o ffosydd draenio a rhewynau. Mae'r amrywiaeth o arferion rheoli ac amseriad a lleoliad rheolaeth o fewn y ffosydd wedi arwain at sefydlu amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a phoblogaethau cysylltiedig o anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Mae Gwastadeddau Gwent yn bwysig ar gyfer y ddwy rywogaeth o blanhigion tanddwr sy'n gysylltiedig â dŵr agored, fel y dyfrllys blewynnaidd (Potamogeton trichoides), a phlanhigion dŵr gyda dail a blodau sy'n ymddangos uwchben wyneb y dŵr fel saethlys (Sagittaria sagittifolia). Mae diddordeb anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn gysylltiedig â dŵr agored, ffosydd yn llawn planhigion dŵr a glannau llawn blodau.

Mi all gwerth cadwraeth y sianeli dŵr hyn gael eu hesgeuluso. Pan nad yw rheolaeth ar lystyfiant y glannau wedi digwydd ers cryn amser, mae'r sianel ddŵr yn tyfu’n wyllt a chasgliadau o blanhigion dyfrol SoDdGA yn cael eu colli, yn enwedig y rhai sy’n arnofio ac o dan y dŵr. Mae mieri yn broblem ar Wastadeddau Gwent gan ei fod yn tyfu'n gyflym, ac yn creu twnnel o brysgwydd sy'n cysgodi llystyfiant dŵr.

Mae Gwastadeddau Gwent bellach yn methu yn y rheolaeth orau posib ar gyfer ei nodweddion SoDdGA fel y dangosir arolygon monitro CNC diweddar (CNC 2010-18) sy'n dangos bod llawer o rwydwaith ffosydd y Gwastadeddau gyda gwrychoedd dwbl, sy’n bygwth planhigion dŵr ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, diddordebau sy’n bwysig dros ben i’r Gwastadeddau a bod SoDdGa wedi'u dynodi ar eu cyfer. Mae Arolwg CNC yn dangos bod o leiaf 63% o’r ffosydd caeau ar draws y 7 SoDdGa wedi’u cysgodi’n drwm.

Mae ffosydd llawn silt sydd wedi tyfu'n wyllt yn lleihau bioamrywiaeth a chynhwysedd storio dŵr llifogydd y system ddraenio a all arwain at fwy o lifogydd lleol. Ymhlith buddion eraill rheolaeth mae ansawdd dŵr a phridd; amddiffyn archeoleg o dan y ddaear; a chynyddu amrywiaeth a maint cynefinoedd a rhywogaethau a'u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.

Nod y prosiect yw adfer tua 21km o ffosydd sydd wedi eu hesgeuluso (llai na 2% o'r holl ffosydd) ac ailgyflwyno tocio helyg i gynnal eu hirhoedledd yn y tirlun. Mae helyg wedi eu tocio yn cynnal llawer o rywogaethau ac mae diffyg rheolaeth arnynt yn beryglus ac yn gallu achosi problemau llifogydd wrth lenwi ffosydd. Maent hefyd yn nodwedd tirlun allweddol ar Wastadeddau Gwent felly mae'r gwaith adfer yn unol â chymeriad a hunaniaeth yr ardal.

Pan fyddwn yn nodi ffos bosib sydd angen ei hadfer, rydym yn cynnal arolygon ecolegol sylweddol i wirio am unrhyw rywogaeth a warchodir sy'n helpu i roi gwybod os yw'n addas i'w hadfer. Yn ogystal, mae'r holl waith yn digwydd yn ystod yr hydref a'r gaeaf er mwyn osgoi tarfu ar adar sy'n nythu a bywyd gwyllt arall.

Er ei bod yn ddealladwy y gallai rhai pobl gredu fod y gwaith yn ddinistriol yn y tymor byr, mae'n hynod bwysig cefnogi'r bywyd gwyllt prin a geir ar Wastadeddau Gwent yn y tymor hir. O'r gwaith monitro yn dilyn y gwaith cynefinol, rydym eisoes yn gweld y sianeli dŵr yn cynnal mwy o blanhigion ac anifeiliaid. Mae'r rheolaeth yma yn gwella gwerth bioamrywiaeth Gwastadeddau Gwent, ac o fudd i'r SoDdGa, a bydd yn adfer cymeriad mosaig traddodiadol y tirlun, yn enwedig trwy ail-agor ardaloedd sydd wedi eu cysgodi ac sy’n sych.


Gallwch weld mwy am bwysigrwydd rheoli ffosydd a rhewynau trwy wylio 'Life down the drain', fideo a gynhyrchwyd gan gyn Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-Coed a Gwynllŵg (CNC heddiw):