Cwestiynau Cyffredin – Ceisiadau Cynllunio

Awdurdodau Cynllunio Lleol

 

Cyngor Sir Fynwy

Mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu sut i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio yn Sir Fynwy: Gweler Ceisiadau Cynllunio https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/edrychwch-ar-y-ceisiadau-cynllunio/

Chwilio a rhoi Sylw ar Geisiadau Cynllunio
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru eich manylion personol fel y gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf yn rheolaidd ar ddatblygiad ceisiadau. Mae yna opsiwn manwl hefyd lle gallwch chi osod meini prawf gwahanol er mwyn derbyn gwybodaeth ychwanegol.

Gweler Ceisiadau Cynllunio yma i wneud sylw. Os byddwch chi'n dod ar draws unrhyw broblemau, cysylltwch â 01633 644880.


Cyngor Dinas Casnewydd 

Mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu sut i roi sylwadau ar gais cynllunio yng Nghyngor Dinas Casnewydd: Rhoi sylw ar Gais Cynllunio.

Gallwch wneud sylwadau trwy'r dulliau canlynol:

  • Ar-lein - gwnewch sylwadau trwy'r gronfa ddata gynllunio trwy chwilio am y cais perthnasol ac yna chlicio ar 'comment on this application'.

  • E-bost - i planning@newport.gov.uk cyn belled â'ch bod yn darparu cyfeirnod y cais (ffôn (01633) 656656 gydag unrhyw ymholiadau

  • Yn ysgrifenedig - i Rheoli Datblygiad, Cynllunio, Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR


Cyngor Caerdydd

Mae'r canllawiau canlynol yn esbonio sut i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio a dderbynnir i Gyngor Caerdydd: Gwrthwynebu Cais Cynllunio.

Gallwch naill ai gofrestru ac yna cyflwyno sylwadau trwy'r porth ar-lein neu gallwch wrthwynebu trwy'r post, gan ddyfynnu cyfeirnod y cais cynllunio a'i anfon at:

Rheoli Datblygu
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW


Gallwch hefyd ysgrifennu at eich Aelod o’r Senedd lleol neu Aelod Seneddol:

Canfod eich Aelod o’r Senedd Lleol - chwilio am fanylion cyswllt yma:

Canfod eich Aelodau Seneddol Lleol - chwilio am fanylion cyswllt yma:


Isod mae manylion cyswllt cyffredinol pellach ar gyfer ymholiadau gyda'n partneriaid craidd sy'n ymwneud â’r broses gynllunio. Mae’r cyfeiriadau e-bost a’r llinellau ffôn yma’n cael eu monitro a bydd eich ymholiad yn cael ei anfon ymlaen at y person perthnasol i’ch ymholiad.