Morglawdd

Ni allai Gwastadeddau Gwent fodoli heb y morglawdd.

Mae’r Gwastadeddau tua 7m ar gyfartaledd uwchlaw lefel y môr gymedrig, ychydig yn uwch ar yr arfordir ond yn is tuag at ymyl y mewndir (5m). Aber Afon Hafren sydd â’r ail amrediad llanw uchaf yn y byd, sef 15m. Golyga hyn y byddai rhan fwyaf o'r Gwastadeddau yn boddi o dan sawl metr o ddŵr ddwywaith y dydd ar lanw uchel.

Mae'n debygol mai milwyr Rhufeinig adeiladwyd y morglawdd cyntaf o gwmpas100 OC. Dros y canrifoedd a ddilynodd, mae wedi cael ei esgeuluso, ei ailadeiladu, ei addasu a'i symud sawl gwaith. Mae llinell y wal bresennol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Fe'i hailadeiladwyd o 1954 hyd 1974 ac yn 35km o hyd. Yn dilyn storm fawr yn 1990, ymgymerwyd â chynllun o godi a chryfhau'r wal.

Mae'n debygol mai'r mynachod ym Mhriordy Allteuryn adeiladwyd y wal wreiddiol yn Allteuryn.

Cerddwch i ben y wal yn Allteuryn a dilyn Llwybr Arfordir Cymru tua'r gogledd, tuag at Y Redwig, i weld golygfeydd trawiadol ar draws Aber Afon Hafren.

IMG_4540.jpg