Dowch i ddarganfod mwy am eglwysi ar y Gwastadeddau drwy ymweld ag Eglwys Santes Fair yn Nhrefonnen ac eglwysi yn Allteuryn, Whitson, Y Redwig a Magwyr.
Bydd digon o amser i fwynhau'r eglwysi yma o'r tu fas a'r tu mewn ac i glywed am eu hanes diddorol.
Man cwrdd: Maes Parcio Withy Walk, Magwyr
Pris: £5.00 – RHAID ARCHEBU LLE