Back to All Events

Mwdlyd gyda'r Mesolithig: Gweithgareddau hwyliog Oes y Cerrig

  • Canolfan ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd (map)

Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref i arteffactau ac olion traed cynhanesyddol enwog ar ei arfordir, felly dewch draw i ddilyn olion traed ein cyndeidiau Mesolithig o Oes y Cerrig yn ystod gwyliau'r haf! Gallwch baentio, castio traciau anifeiliaid presennol a’r rhai sydd wedi diflannu, a beth am greu eich olion mwdlyd eich hun! Byddwn yn defnyddio paent, clai ac ati felly gwisgwch eich hen ddillad.


Pris: £4.40 i blant sy’n aelodau o’r RSPB / £5.50 i blant nad ydynt yn aelodau

Cysylltwch ag archebu:
newport-wetlands@rspb.org.uk
01633 636363